Bwriad y polisi yn y pen draw yw galluogi’r Cyngor i helpu pobl gyda'u costau Treth Gyngor lle mae'r eithriadau a'r gostyngiadau statudol os nad ydynt yn berthnasol.
Mae gan y Cyngor disgresiwn i roi cymorth i dalwyr y dreth gyngor mewn achosion lle nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu disgownt, eithriad neu ostyngiad neu mewn amgylchiadau lle mae’r Cyngor yn teimlo bod lefel y disgownt, eithriad neu ostyngiad yn annigonol o ystyried yr amgylchiadau.
Wrth benderfynu a ddylid caniatáu cymorth dewisol, bydd y Cyngor yn ystyried pob cais yn ôl ei haeddiant. Bydd egwyddorion rhesymoldeb yn cael eu defnyddio ym mhob achos gyda’r Awdurdod yn penderfynu ar bob achos ar sail ei rinweddau perthnasol.
Bydd pob penderfyniad yn cael ei wneud heb gyfeiriad at unrhyw ystyriaethau cyllidebol er bod rhaid cydbwyso unrhyw ddyfarniadau yn erbyn anghenion trethdalwyr lleol a fydd, yn y pen draw, yn talu am unrhyw ostyngiad yn incwm y Dreth Gyngor. Yn yr un modd, bydd cyfnod unrhyw daliadau gostyngol yn cael ei ystyried ochr yn ochr ag amgylchiadau talwr y dreth gyngor neu’r annedd.
Gall y Cyngor hefyd defnyddio’i ddisgresiwn i helpu roi cymorth i dalwyr y dreth trwy pennu dosbarthiadau o eiddo neu personau perthnasol.
I ddibenion gweinyddu, mae’r Cyngor wedi penderfynu y dylai’r grym dewisol i ganiatáu unrhyw ostyngiad yn y Dreth Gyngor cael ei ystyried o fewn y categorïau canlynol:
- Person(au) cymwys - gadawyr gofal
- Annedd(anheddau) cymwys - anheddau sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir y mae gwaith strwythurol yn cael ei wneud arnynt fel y gall pobl fyw ynddynt
- Caledi ariannol eithriadol
- Argyfwng - llifogydd, tân ac ati
- Amgylchiadau eraill
Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu polisi fframwaith i ystyried ceisiadau o’r fath a gellid lawrlwytho y polisi fframwaith sy’n esbonio sut y gellid gwneud cais sy’n manylu’r meini prawf perthnasol hefo’ch hawliau apêl, os nad ydych yn hapus efo penderfyniad y Cyngor.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.