Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom byddwn yn cysylltu â chi, naill ai ar e-bost neu ar y ffôn.
Dysgwch sut i gael cymorth gyda Threth y Cyngor os ydych ar incwm isel.
Gallwch wneud cais p’un a ydych yn berchen ar eich tŷ eich hun, yn rhentu, yn ddi-waith neu’n gweithio.
Gwneud cais Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Ar-lein
Cais Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
Ffyrdd eraill o wneud cais
- Ffoniwch 01248 750 057
- Drwy apwyntiad i fynychu i gwblhau’r ffurflen yng Nghyswllt Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW neu i ymweld â chleientiaid bregus yn eu cartref i gwblhau’r ffurflen gais (Ffôn 01248 750 057).
- Drwy apwyntiad i lenwi’r ffurflen dros y ffôn yn Swyddfeydd Adain Refeniw a Budd-daliadau, Swyddogaeth Adnoddau, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW (Ffôn 01248 750 057).
- Drwy apwyntiad i gwblhau’r ffurflen efo partneriaid cymeradwy hefo hyfforddiant priodol.
Y rhai cyfredol yw:
- Canolfan JE O’Toole, Sgwâr Trearddur, Caergybi, LL65 1NB (ffôn 01407 760 208)
- unrhyw swyddfa Cyngor ar Bopeth sydd ar yr ynys (ffôn 01407 762 278)
- Swyddfa Cymorth Tai, Cyngor Sir Ynys Môn, Sgwâr Trearddur, Caergybi, LL65 1NB (ffôn 01407 765 912) a Gwasanaeth Cwsmer Tai, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni (ffôn 01248 750 057)
- Swyddfeydd Digartref Ynys Môn, Caergybi (Ffôn 01407 765 557)
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad Gostyngiad y Dreth Gyngor
Os mai chi yw’r person sy’n hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor ac rydych yn meddwl bod penderfyniad a wnaed gennym am eich gostyngiad yn anghywir, dylech ysgrifennu atom:
- pa benderfyniad rydych yn anghytuno ag ef
- y rhesymau dros anghytuno ag ef
Gweler y fanylion cyswllt ar y dudalen hon.
Efallai na fydd y ffeil yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.