Trosolwg
Rydym yn benderfynol o gasglu’r Dreth Gyngor sy’n ddyledus i ni. Mae’n rhaid i ni dderbyn eich taliadau ar neu cyn y dyddiad dyledus a ddangosir ar eich bil.
Os na wneir taliad, bydd y proses adennill yn cychwyn.
Crynodeb o'r broses adfer
- Y tro cyntaf byddwch yn hwyr, byddwch yn derbyn nodyn atgoffa.
- Os na fyddwch yn talu’r nodyn atgoffa, neu’n gwneud trefniant ad-dalu newydd, byddwch yn derbyn nodyn atgoffa terfynol.
- Os byddwch yn talu’r swm ar y nodyn atgoffa ond yn methu taliad arall erbyn y dyddiad dyledus, anfonir ail nodyn atgoffa.
- Os byddwch yn hwyr eto, byddwch yn derbyn hysbysiad terfynol. Golyga hyn eich bod wedi colli’r hawl i dalu mewn rhandaliadau misol, a bydd rhaid i chi dalu’r swm llawn o’ch dreth gyngor sy’n weddill am y flwyddyn.
- Os na fyddwch yn talu’r hysbysiad terfynol yn llawn, neu’n gwneud trefniant ad-dalu newydd, bydd gwŷs yn cael ei roi, gan gynnwys costau.
- Os na chaiff y swm llawn, gan gynnwys y costau, ei dalu cyn diwrnod y gwrandawiad, byddwn yn gofyn i’r ynad roi gorchymyn atebolrwydd.
- Petai orchymyn atebolrwydd yn cael ei ganiatáu, byddwn yn cymryd camau adennill pellach oni bai eich bod yn gwneud trefniant gyda ni i dalu. Gall y camau adennill hyn gynnwys defnyddio asiantau gorfodi (a elwid yn feilïaid yn flaenorol), gorchymyn atafaelu enillion neu ddidyniadau o fudd-daliadau.
Byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth ar y dudalen we hon yn fuan i esbonio mwy am y broses adfer.