Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol - Cwestiynau Cyffredin


Bwriad y cynllun yw lleihau ymhellach nifer yr eiddo gwag hirdymor yng Nghymru ac felly cynyddu'r cyflenwad o dai trwy gynnig grantiau i berchnogion / darpar berchnogion eiddo gwag hirdymor

Mae awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Grwpiau Tai Cymunedol hefyd yn gallu cael y cyllid ar gyfer eiddo gwag maen nhw'n caffael fel bod modd eu defnyddio unwaith eto fel tai fforddiadwy ychwanegol. 

Mae grantiau o hyd at £25,000 ar gael i adnewyddu eiddo gwag i'w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.Mae'r grant ar gael mewn rhandaliadau wrth i'r gwaith gael ei wneud. Mae angen cyfraniad o leiaf 15% gan yr ymgeisydd.

Dyma'r meini prawf cymhwysedd allweddol ar gyfer y cynllun:

  • Rhaid i'r cartref gwag gael ei leoli o fewn ardal awdurdod lleol sy'n cymryd rhan.
  • Ar hyn o bryd mae'n rhaid cofrestru'r cartref gydag Adran Dreth Cyngor yr awdurdod fel eiddo gwag (gwag a heb ei ddodrefnu) ac wedi bod felly am gyfnod o leiaf 12 mis ar ddyddiad y cais.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn berchnogion neu ddarpar berchnogion, sy'n bwriadu meddiannu'r eiddo fel eu prif breswylfa a'u hunig breswylfa, am gyfnod o o leiaf 5 mlynedd o ddyddiad ardystio gwaith a gynhaliwyd â chymorth grant. (Cyfnod amod grant).
Yn nol i: Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol