Oherwydd yr ymateb gwych a gafwyd ar gyfer y pecynnau garddio i denantiaid Cyngor Sir Ynys Môn, mae'r broses ymgeisio bellach ar gau.
Tîm Cyfranogiad Tenantiaid Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnig pecynnau garddio i denantiaid.
O dan amgylchiadau arferol gall pob stad tai wneud cais am gyllid i wella agwedd amgylcheddol eu stadau. Drwy’r cynllun hwn yn y gorffennol mae cyllid wedi’i gymeradwyo i greu rhandiroedd, i gael meinciau cymunedol, i gynnal diwrnodau glanhau cymunedol a llawer mwy.
O ystyried y sefyllfa gyda Covid-19, mae’r holl geisiadau cronfa amgylcheddol wedi eu gohirio tan 2021. Mae’r cyllid ar draws y stadau wedi'i ail ddyrannu er mwyn gallu darparu cyllid ychwanegol i’r adran dai er mwyn gallu cynnal llesiant ein tenantiaid yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Er mwyn gallu cael pecyn, rhaid i denantiaid lenwi ffurflen gais lle gallwch ddewis derbyn pecyn garddio tu mewn neu du allan.
Bydd y ffurflen gais ar gael o 9am ar ddydd Llun 29 Mehefin a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10 Gorffennaf. Nifer cyfyngedig o becynnau sydd ar gael felly bydd pecynnau’n cael eu rhannu ar sail cyntaf i’r felin. Unwaith y byd y pecynnau i gyd wedi mynd, bydd y cyfle i ymgeisio yn cau.
Os ydych yn nabod rhywun sy’n denant CSYM ond sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd gallwch wneud cais ar eu rhan.
Bydd y pecynnau yn cynnwys y canlynol:
Pecyn tu mewn: Pecyn o Berlysiau i chi dyfu eich hun neu blanhigion suddlon bach. Bydd y rhain yn cael eu hanfon atoch yn syth gan Amazon.
Pecyn Tu Allan: Detholiad o flodau a gwahanol eitemau er mwyn bywiogi eich gardd a chadw eich bysedd gwyrdd yn brysur.
Ni fydd ceisiadau sydd wedi eu hanner eu llenwi neu sydd heb eu llenwi’n gywir yn cael eu hystyried.
Oherwydd yr ymateb gwych a gafwyd ar gyfer y pecynnau garddio i denantiaid Cyngor Sir Ynys Môn, mae'r broses ymgeisio bellach ar gau.