Peidiwch ag oedi i ddweud wrthym os oes llwydni neu damp yn eich cartref cyngor. Mae cael gwared ar lwydni a thamprwydd yn flaenoriaeth i ni.
Beth sy’n digwydd nesaf
Bydd y Tîm Atgyweirio Tai yn trefnu bod un o’n harchwilwyr technegol yn ymweld â’ch cartref. Byddant yn cwblhau arolwg, ac yn cynnig cyngor pellach i chi.
Dysgwch fwy am lwydni, anwedd a thamp
Gallwch ddysgu mwy am yr hyn sy’n achosi tamp, anwedd a llwydni a’r hyn allwch chi ei wneud.