Cyngor Sir Ynys Môn

Lolfeydd cymunedol


Mae gan Tai Môn 13 lolfa gymunedol wedi’u lleoli ar draws Ynys Môn lle gallwch chi gymdeithasu â phreswylwyr eraill.

Mae'r lolfeydd hyn yn cynnal gweithgareddau amrywiol megis crefftau, clybiau cinio, bingo, boreau coffi a llawer mwy.

Gallwch hyd yn oed gynnal ac arwain eich gweithgareddau eich hun.

Diogelwch Tân yn y lolfa gymunedol: Nadolig 2024

Addurniadau Nadolig yn y Lolfa Gymunedol

Mae addurno yn rhan mawr o ddathliadau y Nadolig, ond mae rhaid ystyried iechyd a diogelwch. Mae’n bwysig i ni rannu’r pwyntiau yma hefo chi gan fod rhain yn reolau gan y Cyngor ar gyfer pob Lolfa Gymunedol.

  • Parhewch i addurno cyn lleied â phosibl oherwydd diogelwch tân.
  • Peidiwch â defnyddio unrhyw ddyfeisiau a goleuadau trydanol. Dim ond batri.
  • Peidiwch â rhwystro allanfeydd tân.
  • Dim canhwyllau.
  • Sicrhewch nad oes dim yn cael ei gadw'n agos at ffynhonnell gwresogi.
  • Sicrhewch fod popeth wedi'i ddiffodd cyn i chi adael.

Rhestr o lolfeydd

  • Min y Mor, Aberffraw
  • Bro'r Ysgol, Bodedern
  • Cae Gwyn, Caergybi
  • Ger y Graig, Llangefni
  • Maes William Williams, Amlwch
  • Tan y Foel, Llannerchymedd
  • Glan Cefni,  Llangefni
  • Llawr y Dref, Llangefni
  • Tan Capel, Llanddaniel
  • Trem Eryri, Llanfairpwll 
  • Maes y Coed, Porthaethwy
  • Pont y Brenin, Llangoed
  • Maes Gwyn, Llanddona

Am ragor o wybodaeth ac ymholiadau archebu, cysylltwch â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid. 

Ffôn: 01248 752 200

E-bost: tenantstenantiaid@ynysmon.llyw.cymru