Cyngor Sir Ynys Môn

Cynllun Strategol Gwasanaethau Tai ar Gyfranogiad Tenantiaid 2024 i 2029


Cafodd y Cynllun Strategol Gwasanaethau Tai ar Gyfranogiad Tenantiaid 2024-29 ei ddatblygu ar y cyd hefo’n tenantiaid ac mae 4 prif feysydd blaenoriaeth:

  • Ymgysylltu a Hysbysu: Sicrhau ein bod ni’n ymgysylltu’n effeithiol a rhannu gwybodaeth ar faterion yn ymwneud â’r Gwasanaethau Tai
  • Recriwtio, Cadw a Dylanwadu: Cynyddu Cyfranogiad Tenantiaid  a grymuso tenantiaid i lunio ein gwasanaethau a dylanwadu arnynt
  • Esblygu ac Arloesi: Gwella ein gwasanaethau yn barhaus i gwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid
  • Hyfforddi a Datblygu Sgiliau: Sicrhau bod tenantiaid yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i gymryd rhan mewn cyfleoedd Cyfranogiad Tenantiaid
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.