Mae’r arolwg STAR yn cael ei gynnal gan wasanaeth tai Cyngor Sir Ynys Môn gan roi’r cyfle i denantiaid Cyngor Sir Ynys Môn gymryd rhan yn ein harolwg bodlonrwydd a gynhelir bob yn ail blwyddyn.
Pwrpas yr arolwg yw deall profiad y tenant a mesur pa mor dda mae’r gwasanaethau tai yn perfformio gyda’r gobaith o wella lefelau bodlonrwydd yn y dyfodol a chanolbwyntio ar feysydd sy’n achosi pryder i denantiaid a chwsmeriaid.
Ein tenantiaid sydd wrth wraidd popeth y byddwn yn ei wneud ac mae’n bwysig ein bod yn gwrando ac yn gweithredu ar y materion posibl hyn. Mae hefyd yn gyfle i ni ddeall beth sy’n gweithio’n dda yn y gwasanaeth y byddwn yn ei ddarparu i denantiaid.
STAR 2023
Daeth arolwg STAR ar gyfer 2023 i ben ar 8 Rhagfyr 2024. Diolch i bawb a gymerodd ran.
Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar yr arolwg ar y dudalen hon.
Adroddiadau STAR
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi adroddiadau arolwg STAR blaenorol ar y dudalen hon fel dogfennau PDF.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.