Ydych chi’n cael anawsterau yn eich cartref presennol? A ydych chi angen cefnogaeth tai i’ch helpu chi fyw’n annibynnol ac yn ddiogel?
Os ydych yn ddigartref
Dylai unrhyw berson sydd yn ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartef gysylltu gyda ni ar y ffon (01248) 750 057 neu drwy ebost adrantai@ynysmon.llyw.cymru
Mae cefnogaeth hyblyg tai yn wasanaeth tymor byr sydd ar gael yn rhad ac am ddim o bobl sy’n cael anawsterau yn rheoli eu cartrefi a byw’n annibynnol yn y gymuned.
Gall ein Swyddogion Cefnogi eich helpu chi i ddelio ag argyfwng a gwella eich sgiliau a’ch hyder i gymryd rheolaeth o’ch bywyd a gwneud eich penderfyniadau eich hun.
Gan ddibynnu ar eich anghenion, gallwn eich helpu:
- i sefydlu eich cartref newydd a setlo ynddo
- adrodd am waith trwsio sydd angen ei wneud, datrys problemau rhent a materion tenantiaeth
- rheoli eich arian, biliau a chyllideb
- llenwi ffurflenni ac ysgrifennu llythyrau
- cael mynediad i fudd-daliadau lles
- trefnu apwyntiadau a chyfarfodydd
- cael mynediad i wasanaethau eraill
- datblygu sgiliau bywyd fel coginio, glanhau a siopa
- cael mynediad i hyfforddiant, addysg a gwaith
- cael mynediad i weithgareddau hamdden
- cadw mewn cyswllt â theuluoedd a ffrindiau
Ni allwn helpu gyda gofal personol na gofal iechyd.
Mae’r gwasanaeth ar gael i breswylwyr Ynys Môn sy’n 16 oed neu’n hŷn, yn byw mewn unrhyw fath o lety, gan gynnwys perchenogion tai.
Rydym yn cefnogi pobl sengl a theuluoedd sy’n ymrwymedig i weithio gyda ni.
Efallai y byddwch angen cefnogaeth am nifer o wahanol resymau, fel:
- rydych yn symud i lety newydd neu lety di-gefnogaeth
- rydych yn cael anawsterau gyda’ch llety presennol ac efallai eich bod mewn perygl o golli eich cartref
- rydych yn gadael ysbyty, carchar neu ofal, ac angen cefnogaeth i fyw’n annibynnol
- rydych yn ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro
- rydych dan bwysau gyda phroblemau iechyd meddwl
- mae gennych broblemau gyda chyffuriau neu alcohol
- rydych yn dianc rhag trais yn y cartref
Ymholiadau gwasanaethau cymorth
I wneud cais am gymorth mewn perthynas â thai, cysylltwch â:
E-bost: spoa@ynysmon.llyw.cymru
Ffôn: 01248 751 937
Dewch i Swyddfa’r Cyngor i siarad â swyddog:
Swyddog Un Pwynt Mynediad
Adran Dai
Prif Swyddfa’r Cyngor
Llangefni
LL77 7TW
Rhowch eich caniatâd i rannu gwybodaeth amdanoch
Efallai eich bod eisiau gofyn i rhywun eich cynrychioli chi er mwyn cysylltu â’r Gwasanaethau Tai ar eich rhan mewn perthynas â mater gwasanaethau tai.
Gallwch ofyn i’ch Aelod Lleol, Aelod o'r Senedd, Aelod Seneddol, cyfreithiwr, ffrind neu berthynas i’ch cynrychioli. Bydd eich cynrychiolydd angen y wybodaeth perthnasol am eich cais i allu eich helpu.
Ffurlen ar-lein
I wneud cais am y gwasanaeth, llenwch y ffurflen ar-lein isod.
Nid oes rhaid i chi greu cyfrif i ddefnyddio platfform Fy Nghyfrif Môn, ond rydym yn argymell eich bod yn gwneud hynny. Bydd cyfrif yn caniatáu i chi reoli eich ceisiadau gwasanaeth a chyfrifon gyda ni.
Gwybodaeth bellach am Fy Nghyfrif Môn.