Tamp: Beth ydyw
Mae tamp yn cael ei achosi pan fydd nam yn strwythur sylfaenol yr adeilad yn gadael dŵr i mewn o’r tu allan.
Mae dau fath o tamp: tamp treiddiol a tamp codi.
Mae tamp treiddiol yn digwydd pan fydd dŵr yn dod i mewn trwy’r waliau neu’r to, er enghraifft, o dan deilsen rydd ar y to, o beipiau neu orlif gwastraff sy’n gollwng, neu drwy graciau.
Mae tamp codi yn brin ond, os yw’n digwydd, mae problem gyda’r cwrs atal tamp. Rhwystr yw hwn sy’n rhan o adeiladwaith lloriau a waliau ac mae’n atal tamp rhag codi o’r ddaear a thrwy’r tŷ. Y dystiolaeth arferol o leithder codi yw ‘llinell lanw’ ar y waliau sy’n dangos pa mor uchel y mae’r tamp wedi codi. Ceir arogl llwydni hefyd.
Os nad ydych yn meddwl fod y tamp yn cael ei achosi gan unrhyw un o’r rhesymau hyn, mae’n debyg mai anwedd yw’r broblem.
Anwedd: Beth ydyw
Mae’r aer bob amser yn cynnwys rhywfaint o leithder, hyd yn oed os nad ydych yn gallu ei weld. Mae aer cynnes yn cynnwys llawer mwy o leithder nag aer oer. Rydych yn sylwi arno pan fyddwch yn gweld eich anadl ar ddiwrnod oer, neu pan fydd stêm yn gorchuddio’r drych pan fyddwch yn cael cawod neu fath.
Mae anwedd yn cael ei achosi pan fydd tamp sy’n cael ei ddal mewn aer cynnes yn taro arwynebedd oer, tebyg i ffenestr neu wal, ac mae’n cyddwyso ac yn ffurfio dafnau o ddŵr. Os bydd hyn yn digwydd yn aml, ac os na chaiff ei reoli, gallai llwydni ddechrau tyfu.
Fel arfer, mae hyn yn digwydd ar waliau ac arwynebau allanol oer ac mewn llefydd lle nad yw’r aer yn cylchredeg yn dda. Gall y tamp sy’n cael ei greu ddifrodi dillad, dodrefn ac addurnwaith.
Mae anwedd yn ymddangos yn bennaf yn ystod tywydd oer ac mae i’w weld ar yr arwynebau oeraf neu mewn llefydd lle nad oes fawr o symudiad aer, neu ddim o gwbl, megis corneli ystafelloedd, ger ffenestri neu du ôl i ddodrefn.
Gall anwedd wneud problemau iechyd megis asthma, broncitis, arthritis a chryd cymalau yn waeth.
Beth sy’n achosi anwedd
Mae anwedd yn digwydd yn y gaeaf fel arfer gan fod yr adeilad yn oer ac nid yw ffenestri’n cael eu hagor mor aml, felly nid yw aer llaith yn gallu dianc.
Pam fod anwedd yn gymaint o broblem yn awr
Mae gwelliannau i’r cartref, megis insiwleiddio waliau, gosod mesurau atal drafftiau ar ddrysau, a ffenestri dwbl yn golygu ei bod yn haws cadw tai’n gynnes trwy leihau drafftiau ac atal gwres rhag dianc.
Ond, maent yn atal tamp rhag dianc hefyd ac mae hyn yn gwneud anwedd yn waeth.
Ai anwedd sy’n achosi eich tamp?
Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i leihau anwedd.
Creu llai o leithder
- Sychwch y dŵr oddi ar eich ffenestri a’r siliau ffenestri gyda chadach.
- Rhowch eich dillad i sych ar lein tu allan os gallwch, neu rhowch nhw yn yr ystafell ymolchi i sychu – caewch y drws ac agorwch y ffenestr, neu trowch y ffan ymlaen.
- Rhowch gaeadau ar sosbenni pan fyddwch yn coginio. Mae hyn yn cadw’r ager yn eich sosban ac mae’n arbed arian ar eich bil ynni.
- Peidiwch â defnyddio gwresogyddion paraffin neu nwy potel gan eu bod yn cynhyrchu llawer iawn o leithder. Mae llosgi galwyn o baraffin yn rhoi tua galwyn o anwedd dŵr yn yr aer ac mae’n ailymddangos fel anwedd ar eich ffenestri neu arwynebau oer eraill.
- Gwnewch yn siŵr fod eich sychwr dillad yn rhyddhau aer poeth tu allan i’r tŷ. Os nad yw eich sychwr dillad yn un sy’n hunan-gyddwyso, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r beipen allan trwy’r ffenestr i sicrhau nad yw aer poeth llawn tamp sy’n cael ei gynhyrchu gan eich peiriant yn cyddwyso tu mewn i’ch cartref. Nid yw agor ffenestr yn ddigon. Gallwch gael cit pibellau o’r rhan fwyaf o siopau nwyddau trydan neu siopau DIY
Cynyddu awyriad
- Defnyddiwch yr holltau awyru yn eich ffenestri. Mae angen llif da o aer i gael gwared â lleithded sy’n cael ei gynhyrchu yn eich cartref drwy’r amser.
- Agorwch ffenestr pan fyddwch yn coginio ac ar ôl cael cawod/bath. Mae sosbenni sy’n berwi, bath neu gawod boeth yn creu llawer iawn o ager. Mae agor ffenestr yn sicrhau bod yr ager yn cyddwyso tu allan, yn hytrach na thu mewn, i’ch cartref.
- Caewch ddrysau eich cegin a’r ystafell ymolchi pan fyddwch yn eu defnyddio ac am tua 20 munud wedyn, er mwyn atal aer llaith rhag mynd i ystafelloedd eraill. Pan nad ydych yn defnyddio eich cegin, ystafell ymolchi neu ystafelloedd eraill, gadewch y drysau ar agor er mwyn i wres ledaenu’n gyson trwy eich cartref.
Gadewch i aer gylchredeg
- Os yw’n bosib, peidiwch â rhoi dodrefn yn erbyn waliau allanol eich cartref. Mae waliau mewnol (rhwng ystafelloedd) bob amser yn gynhesach ac felly maent yn llai tebygol o gael eu heffeithio gan anwedd.
- Peidiwch â gorlenwi ystafelloedd – gadewch le i aer gylchredeg.
- Gadewch fwlch rhwng y wal a’r dodrefn er mwyn i aer fedru cylchredeg.
- Peidiwch â rhoi gormod o bethau yn y wardrob neu mewn cypyrddau gan fod hyn yn atal aer rhag cylchredeg. Rhaid i’r awyru fod yn ddigonol i atal llwydni rhag tyfu tu mewn i’r wardrob neu gypyrddau. Defnyddiwch silffoedd delltog neu torrwch hollt awyru yng nghefn pob silff.
Cadwch eich cartref yn gynnes
- Mae waliau’n mynd yn oerach pan fydd tam yn cyddwyso arnynt. Mae gwres yn cael ei golli oherwydd hyn ac mae’n cynyddu’r risg y bydd llwydni’n tyfu. Mae angen mwy o ynni wedyn i wresogi eich cartref i dymheredd cyfforddus ac mae hyn yn costio mwy.
- Mae gwresogi eich cartref yn effeithlon yn helpu i leihau anwedd a gallai arbed arian ar eich biliau gwresogi. Ceisiwch gadw tymheredd eich cartref dros 18°C (63°F). Mae anwedd yn fwy tebygol o ddigwydd os ydych yn gadael i dymheredd eich tŷ ddisgyn o dan 18°C.
Insiwleiddio ac atal drafftiau
- Bydd insiwleiddio a mesurau atal drafftiau’n helpu i gadw eich cartref yn gynnes a gostwng biliau tanwydd, e.e. insiwleiddio’r atig, insiwleiddio waliau ceudod (gellir gwirio hyn ar gais).
- Mae gwydr eilaidd neu wydr dwbl yn lleihau faint o wres sy’n cael ei golli ac mae’n lleihau drafftiau, ond mae’n rhaid i chi sicrhau fod eich cartref yn cael ei awyru.
Peidiwch
Peidiwch â blocio holltau awyru yn barhaol, yn enwedig os oes gwresogydd sy’n llosgi tanwydd yn yr ystafell fel tân nwy neu stôf.
Llwydni
Cael gwared ar lwydni ar unwaith
- Mae hyn yn bwysig i atal llwydni rhag lledaenu a gwneud mwy o ddifrod i’ch cartref.
- Gallwch gael cynnyrch glanhau sy’n cynnwys ffwngladdwr o siopau nwyddau cartref neu siopau DIY (dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser) neu defnyddiwch gannydd o ansawdd da a chymysgwch un rhan cannydd i bedwar rhan o ddŵr (cofiwch y gall cannydd dynnu lliw oddi ar arwynebau).
- Dylid sychlanhau dillad sydd â llwydni arnynt a glanhau carpedi gyda siampŵ gan y gall brwsio/hwfro gynyddu’r risg o broblemau anadlol.
- Ar ôl trin llwydni, dylid ailaddurno gan ddefnyddio paent o ansawdd da sy’n cynnwys ffwngladdwr i helpu i atal llwydni rhag ffurfio eto. Noder nad yw’r paent hwn yn effeithiol os caiff ei orchuddio gyda phaent cyffredin neu bapur wal.
Beth i’w wneud nesaf
Tenantiaid y cyngor
Cysylltwch â’r Tîm Trwsio Tai i drefnu ymweliad cartref gan un o’n harolygwyr technegol, a all gynnal arolwg a rhoi cyngor pellach i chi.
Tai preifat
Rydych chi'n rhentu
Os ydych yn byw mewn llety rhent preifat dylech ysgrifennu at eich landlord / asiant i’w hysbysu am unrhyw bryderon sydd gennych neu broblemau oherwydd diffyg atgyweirio yn eich cartref.
Gallwch gael rhagor o gyngor am leithder a llwydni yn eich cartref rhent preifat gan Cyngor ar Bopeth.
Rydych chi'n berchen ar eich cartref
Defnyddiwch y wybodaeth ar y dudalen hon i leihau effeithiau lleithder, anwedd a llwydni.
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.