Gwasanaeth digost a chynhwysol ar gyfer teuluoedd
Gwasanaeth digost a chynhwysol ar gyfer teuluoedd yw Teulu Môn.
Gwasanaeth sy’n gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Plant, Teuluoedd a Gweithwyr Proffesiynol er mwyn cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn ymwneud â Phlant, a theuluoedd sydd â phlant, rhwng 0 i 25 oed.
Rydym yn rhan o Wasanaethau Plant Ynys Môn a gallwn roi cymorth i chi os ydych:
- yn chwilio am ofal plant neu’n meddwl dechrau gweithio fel gofalwr plant proffesiynol
- eisiau gwybodaeth am weithgareddau i blant a/neu grwpiau cymorth lleol yn yr ardal
- angen cyngor ar sut i helpu teulu sydd angen cefnogaeth ychwanegol, oherwydd bod teulu wedi chwalu, pryderon yn ymwneud â thai, problemau ariannol neu brofedigaeth
- eisiau cymorth ar gyfer teulu sy’n wynebu problemau yn yr ysgol, oherwydd anabledd yn y teulu, beichiogrwydd yn yr arddegau, cam-drin alcohol a chyffuriau
- eisiau siarad am bryder sydd gennych am lesiant neu niwed posibl i blentyn
Rydyn ni yma i gefnogi
Rydym yn angerddol dros uno asiantaethau i gefnogi teuluoedd drwy sicrhau bod pob plentyn a theulu’n gallu cael mynediad rhwydd at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth mor fuan â phosib.
Felly os ydych yn rhiant, yn aelod o’r teulu, yn gymydog neu’n weithiwr proffesiynol sy’n chwilio am wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth - rydym yma i’ch cefnogi i ganfod yr ateb gorau i’ch ymholiad.
Cysylltu â ni
Ffoniwch ni ar 01248 725 888 rhwng 8:45am a 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener. Gofynnwch am Teulu Môn.
Facebook
Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar Facebook lle byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau estyn allan yn y gymuned sydd ar y gweill.
Cymorth ariannol i blant yn gofal plant ac addysg
Mae help ar gael gyda chostau gofal plant i rieni. P'un a oes gennych blant ifanc neu bobl ifanc yn eu harddegau, gallech gael cymorth.
Darganfod mwy am gostau gofal plant