Cyngor Sir Ynys Môn

Tîm o amgylch y teulu


Logo Tîm o Amgylch y Teulu

Mae’r tîm yn gweithio gyda theuluoedd ac asiantaethau er mwyn adnabod problem yn gynnar, newid pethau er gwell ac atal y problemau ddwysau i rywbeth fwy difrifol.

Sut ydym ni’n gwneud hyn?

Asesu  →  Adnabod problemau  →  Adnabod atebion posibl  →  Trafod efo’r teulu  →  Galw Cyfarfod  →  Creu cynllun Teulu  →  Gweithio gyda’n gilydd i ddatrys y problemau  →  Cau’r achos.

Efo pwy ydyn ni’n gweithio?

Rydym yn gweithio hefo plant a phobl ifanc sydd rhwng 0-25, eu gwarchodwyr / rhieni, aelodau eraill o’r teulu ac unrhyw asiantaeth sydd yn gallu ein cefnogi i wneud gwahaniaeth i anghenion y teulu er gwell.

Efo beth allwn ni eich helpu?

Gallem helpu teuluoedd hefo bob math o bethau gwahanol, megis;

  • Problemau yn yr ysgol
  • Anabledd o fewn y teulu
  • Problemau straen rhiantu
  • Ymddygiad anodd yn y cartref
  • Iechyd
  • Camddefnydd o alcohol a chyffuriau
  • Beichiogrwydd yn yr arddegau
  • Materion tai

Rhaid cael caniatâd i gyfeirio teulu atom gan fod Tîm o Amgylch y Teulu yn broses wirfoddol. Mae’n wasanaeth sydd yn rhad ac am ddim i bob teulu.