Y cynnig
Gall rhieni a gwarcheidwaid wneud cais am ofal plant ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos. Gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau (perthynas neu ffrind nad yw’n rhiant plentyn) wneud cais hefyd.
Mae 30 awr yr wythnos yn cynnwys:
I fod yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru:
- rhaid eich bod yn byw yng Nghymru
- ni chaiff incwm gros rhiant fod yn fwy na £100,000 y flwyddyn
Yn ogystal, rhaid i chi hefyd fodloni un o'r meini prawf canlynol:
- yn gyflogedig ac yn ennill o leiaf, ar gyfartaledd, yr hyn sy’n cyfateb i weithio 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu Gyflog Byw
- ar Gyflog ac Absenoldeb Statudol (Sâl, Mamolaeth, Tadolaeth, Rhiant, Profedigaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu)
- wedi cofrestru ar gwrs addysg bellach neu uwch sydd o leiaf 10 wythnos o hyd
Pryd gall eich plentyn ddechrau ar y cynnig
Mae'ch plentyn yn troi'n 3 | Gall eich plentyn ddechrau ar y cynnig |
1 Medi i 31 Rhagfyr
|
Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr
|
1 Ionawr i 31 Mawrth
|
Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill
|
1 Ebrill i 31 Awst
|
Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Medi
|
Sut i wneud cais
Bydd angen i bob rhiant a hoffai gael gofal plant a ariennir gan Gynnig Gofal Plant Cymru wneud cais trwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol.
Gwnewch gais am y Cynnig Gofal Plant Cymru
Llinell gymorth
Os hoffech siarad â rhywun am eich cais gallwch ffonio’r llinell gymorth genedlaethol ar 03000 628 628
Gwarchodwyr plant ym Môn
Am restr o warchodwyr plant ar Ynys Môn, e-bostiwch gofalplantachwaraemon@ynysmon.llwy.cymru