Cyngor Sir Ynys Môn

Cynnig Gofal Plant Cymru


Y cynnig

Gall rhieni a gwarcheidwaid wneud cais am ofal plant ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos. Gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau (perthynas neu ffrind nad yw’n rhiant plentyn) wneud cais hefyd.

Mae 30 awr yr wythnos yn cynnwys:

I fod yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru:

  • rhaid eich bod yn byw yng Nghymru
  • ni chaiff incwm gros rhiant fod yn fwy na £100,000 y flwyddyn

Yn ogystal, rhaid i chi hefyd fodloni un o'r meini prawf canlynol:

  • yn gyflogedig ac yn ennill o leiaf, ar gyfartaledd, yr hyn sy’n cyfateb i weithio 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu Gyflog Byw
  • ar Gyflog ac Absenoldeb Statudol (Sâl, Mamolaeth, Tadolaeth, Rhiant, Profedigaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu)
  • wedi cofrestru ar gwrs addysg bellach neu uwch sydd o leiaf 10 wythnos o hyd
Pryd gall eich plentyn ddechrau ar y cynnig
Mae'ch plentyn yn troi'n 3Gall eich plentyn ddechrau ar y cynnig

1 Medi i 31 Rhagfyr

Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr

1 Ionawr i 31 Mawrth

Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill

1 Ebrill i 31 Awst

Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Medi

Sut i wneud cais

Bydd angen i bob rhiant a hoffai gael gofal plant a ariennir gan Gynnig Gofal Plant Cymru wneud cais trwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol.

Gwnewch gais am y Cynnig Gofal Plant Cymru

Llinell gymorth

Os hoffech siarad â rhywun am eich cais gallwch ffonio’r llinell gymorth genedlaethol ar 03000 628 628

Gwarchodwyr plant ym Môn

Am restr o warchodwyr plant ar Ynys Môn, e-bostiwch gofalplantachwaraemon@ynysmon.llwy.cymru