Cyngor Sir Ynys Môn

Asesiadau digonolrwydd gofal plant a chwarae


Mae gan yr awdurdod lleol oblygiad cyfreithiol i gwblhau asesiad o ddigonolrwydd gofal plant (ADG) fel gofyn statudol o’r Ddeddf Gofal Plant 2006.

Mae ADG yn ddull sydd yn galluogi i awdurdod lleol i adolygu'r cyflenwad a’r angen ar gyfer gofal plant yn yr ardal, a thrwy hynny tynnu sylw ar anghenion lle sydd angen mwy o sylw a’u gwneud cynigion lle’n bosib. Yn ogystal â hyn mae angen i awdurdodau ystyried 'Cymru: gwlad gyfeillgar i chwarae' wrth wneud asesiad asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae (ADCC).

Beth yw asesiad o ddigonolrwydd gofal plant

Mae asesiad o ddigonolrwydd gofal plant yn cymharu'r cyflenwad o ofal plant o fewn ardal i’r angen am ofal plant. Mae galw yn seiliedig ar y nifer o blant of fewn ardal, a’r cyfartaledd cenedlaethol o ran defnydd o’r gofal. Wrth gymharu’r angen, mi fedrwn ni penderfynu os oes angen mwy o ofal plant of fewn yr ardal.

Beth yw asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae

Mae’r asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae i fod i ddangos data am y nifer o blant sydd yn byw o fewn yr awdurdod lleol er mwyn gwneud asesiad am y potensial ar gyfer anghenion chwarae. Mae’r data i fod i roi gwybodaeth am y nifer o blant mewn catgoriau gwahanol a all effeithio ar eu hanghenion ar gyfer chwarae.

Amcan canlyniadau a phrif themâu

Gweithredoedd ADG 2022 i 2027

Gofal Plant ar ôl ysgol

  • Cefnogi'r rheini i ddychwelyd i’r gweithle neu i wella eu cyflogadwyedd trwy hyfforddiant neu addysg.
  • Cefnogi datblygiad mwy o gyfleoedd gofal plant ar o’r ysgol a chlybiau ar ôl ysgol.

Oriau agor hirach

  • Cefnogi darparwyr gofal plant i allu cynnig oriau agor hirach.

Trawsnewidiadau CCLDP

  • Datblygu strategaeth recriwtio a chadw proffesiwn y blynyddoedd cynnar a gofal plant (mater Cymru gyfan).

Cynnig gofal plant ar gyfer plant 2 oed

  • Galw lleol a chymhelliant llywodraeth Cymru i ymestyn y cynnig rhan-amser i blant 2 oed.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

  • I hyrwyddo cydraddoldeb mynediad i bob plentyn, gan gefnogi'r ddarpariaeth gofal plant i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Darpariaeth Gymraeg

  • Parhau i flaenoriaethu Cymraeg yn Gyntaf ac adeiladu'r Gymraeg mewn lleoliadau gofal plant.

Fforddiadwy

  • Parhau i hyrwyddo rhaglenni gofal plant sydd wedi eu hariannu a chyfleoedd fel gofal plant di dreth a chynnig 30 awr o ofal plant.

Argaeledd gofal plant

  • Gweithio mewn partneriaeth gydag adrannau priodol ac asiantaethau allanol i ymgynghori ar ddatblygiadau tai i sicrhau bod digon o ofal plant ar gael yn lleol.

Gwarchodwyr plant

  • Cefnogi unigolion drwy'r broses gofrestru gwarchod plant a chefnogi hyfforddiant gwarchodwyr plant er mwyn ehangu’r argaeledd.

Gweithredoedd  (ADCC) 2022 i 2025

Chwarae stryd

  • Hyrwyddo strydoedd glanach a mwy diogel ar gyfer chwarae.
  • Hyrwyddo ffyrdd cerdded, reidio mwy diogel - gweithio mewn partneriaeth ag adrannau perthnasol ac asiantaethau allanol i leihau cyfyngiadau cyflymder. 

Gweithio mewn partneriaeth

  • Parhau i ddatblygu gwaith mewn partneriaeth ag adrannau perthnasol a thu allan i gyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer yr asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae.

Cynwysoldeb

  • Datblygu ardaloedd a gweithgareddau mwy diogel ar gyfer cymunedau LGBTQIA.

Recriwtio, hyfforddiant a chymwysterau

  • Cefnogi datblygiad a darpariaeth mwy o hyfforddiant mewn chwarae i ysgolion a goruchwylwyr amser cinio.
  • Cefnogi datblygiad a darpariaeth staff mwy cymwys (L3 Playworks).
  • Cefnogi mae angen i weithlu gofal plant y tu allan i oriau ysgol dyfu a chadw staff cymwys.

Mannau chwarae agored

  • Asesiad mannau agored i'w ddiweddaru

Gweler y dogfennau

Anfonwch e-bost at GofalPlantaChwaraeMon@ynysmon.llyw.cymru os hoffech gopi o’r:

  • Ffurflen Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant
  • Ffurflen Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae