Cyngor Sir Ynys Môn

Cŵn ar draethau


Mae cŵn yn cael eu cyfyngu o ardaloedd ar 7 o draethau Ynys Môn.

Mae arwyddion ar yr holl draethau gyda mapiau arnynt yn dangos lle mae’r gwaharddiad ac yn nodi’r mannau hynny lle gall cŵn a’u perchenogion fwynhau’r traeth.

Traethau cyfyngedig

  • Biwmares
  • Benllech
  • Cemaes
  • Llanddwyn, Niwbwrch
  • Llanddona
  • Porth Dafarch
  • Trearddur

Cerdded eich ci ar bromenâd

Yn y Benllech, Cemaes a Threarddur mae’n rhaid cadw cwn ar dennyn ar y promenadau.

Pan fydd y cyfyngiadau yn berthnasol

Mae’r cyfyngiadau hyn mewn grym o 1 Mai i 30 Medi bob blwyddyn.

Cŵn yn baeddu ar draethau

Mae perchenogion cwn yn cyflawni trosedd dan Orchymyn Cyngor Sir Ynys Môn (Cŵn yn Baeddu Tiroedd) 1997 trwy beidio â chlirio i fyny ar ôl eu cwn mewn mannau penodol, sy’n cynnwys traethau.

Os na fyddwch yn glanhau ar ôl eich ci efallai y byddwch yn agored i ddirwy cosb benodedig neu erlyniad yn y llys, a allai arwain at ddirwy fwy.

Mapiau

Atodir hefyd mapiau sy’n dangos ble nad oes mynediad i gŵn ar draethau Benllech, Cemaes, Llanddona a Threarddur. Cyflwynir y mapiau fel ffeiliau PDF.