Cyngor Sir Ynys Môn

Cŵn yn baeddu


Yn unol â Gorchymyn (Cŵn yn Baeddu Tiroedd) Ynys Môn 1997 cyflawnir trosedd oni fydd perchenogion cŵn yn clirio i fyny wedi i’w cŵn faeddu unrhyw dir sy’n dir penodedig.

Os na fyddwch yn glanhau ar ôl eich ci efallai y byddwch yn agored i ddirwy cosb benodedig neu erlyniad yn y llys, a allai arwain at ddirwy lawer mwy.

I’r bag, i’r bin!

Eithriadau

  • Gwneir eithriad ar gyfer pobl sydd wedi eu cofrestru’n ddall.
  • Nid yw’n drosedd os oes gennych esgus rhesymol.

Beth sydd ddim yn esgus rhesymol

Nid yw’n esgus rhesymol i ddweud:

  • nad oeddech yn gwybod bod eich ci wedi baeddu yn esgus rhesymol
  • nad oes gennych ffordd addas o gael gwared ar y carthion (bag plastig,’ poop scoop’ ac ati) yn esgus rhesymol
  • nad oes bin gwastraff cwn, bin sbwriel neu gynhwysydd addas arall ar gael yn esgus rhesymol

Lle mae'r gorchymyn yn berthnasol

Yn amodol ar yr eithriadau a nodir isod, mae’r gorchymyn yn berthnasol i’r holl diroedd agored yn Ynys Môn y mae gan y cyhoedd hawl i fod arnynt (p’un a ydynt yn talu i gael mynediad neu beidio).

Mae hyn yn cynnwys llecynnau chwarae a chaeau chwarae mewn ysgolion, caeau chwarae eraill, llefydd chwarae, llecynnau adloniant mewn parciau, meysydd parcio cyhoeddus, safleoedd picnic, promenadau, gerddi cyhoeddus, iardiau eglwysi, mynwentydd a’r rhan fwyaf o draethau.

Eithriadau

  • Lonydd gyda chyfyngiad cyflymdra o dros 30 mya a’r tir o boptu iddynt.
  • Tir a ddefnyddir ar gyfer amaeth neu diroedd coediog.
  • Tir sydd yn bennaf yn dir corsiog, rhostir neu waun.
  • Tir comin gwledig.
  • Tir preifat nad yw’r perchennog yn dymuno iddo gael ei gynnwys.

Nid yw’r gorchymyn yn berthnasol i erddi preifat, dreifiau ac ati gan nad ydynt ar gyfer mynediad cyffredinol.

Os nad ydych yn siŵr

Cymerwch fod y gorchymyn yn berthnasol a chliriwch i fyny ar ôl eich ci!

Am ragor o wybodaeth ynghylch materion cŵn yn baeddu, Cynllun Cofrestru Cŵn Gwirfoddol a materion eraill sy’n ymwneud â bod yn berchen ar gi cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd, ffôniwch 01248 750 057