Dim ond am 7 diwrnod clir y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gyfrifol am gynelu cŵn strae. Ar ddiwedd y cyfnod hwn ceisir dod o hyd i gartref newydd ar eu cyfer.
Mae’r cŵn yn cael eu lleoli dros dro yng nghartref cŵn North Clwyd Animal Rescue , ger Treffynnon.
Man derbyn allan o oriau
Er mwyn cysylltu â’r gwasanaeth cŵn strae allan o oriau dylai’r cyhoedd ffonio 01407 720 800
Dyma’r rhif ffôn ar gyfer:
Milfeddygon Bodrwnsiwn
Parc Diwydiannol Mona
Gwalchmai
Ynys Môn
LL65 4RJ
Hwn yw ein man derbyn allan o oriau ar gyfer cŵn strae os ydych eisiau mynd â chi strae yno.
Rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Bydd warden cŵn yn casglu’r ci pan fydd cyfle yn ystod yr oriau 9am i 5pm Llun i Gwener (heblaw am wyliau banc).
Ffi rheoli cŵn
Os yw eich ci wedi ei gludo i’r man derbyn uchod, bydd rhaid i chi dalu ffi rheoli cŵn sy’n cael ei gasglu gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Hawlio eich ci
Bydd rhaid i chi dalu ffi a fydd yn cwrdd â’r costau.
Dim ond yn ystod oriau agor y cynelau y gellwch hawlio eich ci. Gellwch weld oriau agor y cynelau.