Cyngor Sir Ynys Môn

Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol


Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynhyrchu mapiau o rwydweithiau cerdded a beicio yn eu hardaloedd lleol, sef Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl).

Ewch i Map Rhwydwaith Teithio Llesol Ynys Môn

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gymeradwyo MRhTLl Ynys Môn ar 3 Awst 2022.

Mae canllaw defnyddwyr y MRhTLl yn egluro sut i weld a defnyddio’r mapiau ar-lein.

Mae canllaw gwybodaeth gefndirol y MRhTLl yn esbonio’r mapiau a sut i’w dehongli.

Hefyd, er mwyn gallu edrych ar y mapiau hyn yn rhwydd a chyflym, mae fersiynau pdf ar gael isod ar gyfer pob ardal ddynodedig ar Ynys Môn.

Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer bob ardal ddynodedig (fel PDF)

Llwybrau teithio presennol

Y llwybrau cerdded a beicio presennol sydd eisoes yn cyrraedd safonau teithio llesol Llywodraeth Cymru, sydd yn golygu eu bod yn medru cael eu defnyddio ar gyfer teithiau pob dydd.

Llwybrau’r dyfodol

Llwybrau arfaethedig y mae’r awdurdod lleol am eu creu yn y dyfodol, yn ogystal â llwybrau teithio presennol y cynigir eu gwella i gyrraedd y safonau.