Pwyntiau gwefru
Mae lleoliad pob pwynt gwefru ar Ynys Môn ar gael ar Zapmap (gwefan allanol yn Saesneg).
Edrychwch ar Zapmap neu ar wefan y darparwr i gadarnhau statws diweddaraf y pwyntiau gwefru cyn teithio i’w defnyddio.
Sut mae gwefru cerbydau trydan?
Byddwch angen y cebl plwg-i-blwg a ddaeth gyda’r cerbyd.
Mae’r socedi gwefru sydd ar gael yn ein lleoliadau yn cynnwys socedi math CHADeMo (50kW), CCS (50kW), a Math 2 (22kW).
I ddefnyddio’r seilwaith Swarco gallwch gofrestru i dalu drwy’r ap eSwarco neu mae ar gael o’r siop apiau ar ffonau iOS ac Android.
Fel arall gallwch dalu â cherdyn debyd neu gredyd. Mae gwybodaeth bellach ar sut i ddefnyddio’r pwyntiau gwefru ar gael ar wefan y darparwr neu ar yr ap yr ydych chi’n ei ddefnyddio.
Cost gwefru cerbydau trydan
Mae’r gost yn ddibynnol ar gyflymder y gwefrwr a’r darparwr. Ar hyn o bryd mae gennym wefrwyr chwim (70kVA) a chyflym (7-22KvA) sydd ar gael i’w defnyddio gan y cyhoedd a’r gost yw 49c/kWh-57p/kWh. Mae rhestr o’r costau ar gael ar wefan y darparwr, ac ar Zapmap.
Er mwyn annog mwy i ymuno â’r cyngor ar ei daith tuag at sero net ar hyn o bryd nid oes rhaid i ddefnyddwyr dalu am barcio.
Mae Zapmap hefyd yn darparu cyfrifiannell (gwefan allanol yn Saesneg) fel y gallwch gyfrifo faint o amser y bydd hi’n ei gymryd i wefru’ch car gan ddefnyddio gwefrwr araf, cyflym neu chwim yn ogystal â’r gost o wneud hynny.
Gosod gwefrwr yn eich cartref neu fusnes
Mae gwybodaeth am osodwyr pwyntiau gwefru, arweiniad ar gymhwystra, cynlluniau a ffurflenni cais i ymgeisio am gyllid grant ar gael ar wefan Y Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau (OZEV).
Cynllun gwefru cerbydau trydan
Mae Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan Cyngor Sir Ynys Môn 2022 – 2030 yn nodi’n cynlluniau uchelgeisiol i arwain y gwaith o gwrdd ag anghenion gwefru trigolion yr ynys ac ymwelwyr.
Mae’n elfen hanfodol o’n hymrwymiad i leihau’n ôl troed carbon fel sefydliad a chefnogi’r ynys i ddod yn ynys sero net o dan ein rhaglen newid hinsawdd tuag at sero net, mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae hefyd yn ymateb i’r cynnydd cyflym yn nifer y cerbydau trydan sy’n cael eu gwerthu, a’r gwaharddiad ar werthu cerbydau diesel a phetrol newydd erbyn 2030.
Trwy roi’r cynllun gwefru hwn ar waith ni fydd un o’r cynghorau cyntaf yng Nghymru i weithredu mewn ymateb i, a glynu at, Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan Cymru.
Trwy wneud hyn, ein nod yw rhoi hyder i drigolion ac ymwelwyr i symud i ffwrdd o gerbydau petrol a diesel, lleihau allyriadau pibellau mwg a gwella ansawdd aer ac iechyd ledled yr ynys.
Cyflawni’r cynllun
Ar ôl llwyddo i sicrhau cyllid gant, mae gennym gyllid i osod a datblygu pwyntiau gwefru ledled yr ynys.
Rydym eisoes wedi gosod pwyntiau gwefru yn Amlwch, Llangefni, Caergybi a Phorthaethwy; ac rydym yn bwriadu gosod ychwaneg o bwyntiau gwefrau yn y lleoliadau hyn ac mewn lleoliadau eraill o amgylch yr ynys, yn cynnwys y maes parcio a theithio/rhannu ym Mharc Sant Tysilio a Maes Parcio a Rhannu, Llanfairpwll.
Fel rhan o’r rhaglen ehangach, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddarparu rhwydwaith o bwyntiau gwefru ledled Ynys Môn er mwyn galluogi trigolion ac ymwelwyr wefru eu cerbydau ar yr ynys cyn parhau â’u siwrnai.
Mae gwaith hefyd ar y gweill i ddatblygu ychwaneg o bwyntiau newydd (ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru) ond mae’r gwaith hwn yn ddibynnol ar sicrhau ychwaneg o gyllid allanol.
Beth arall ydym ni’n ei wneud i annog mwy o ddefnydd o gerbydau trydan?
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi datblygu Cynllun Trawsnewid Fflyd er mwyn cymryd camau i ddatgarboneiddio ei fflyd drwy symud i gerbydau trydan. Yn y tymor byr bydd yn canolbwyntio ar brynu cerbydau bach /canolig (2023) ac yn y tymor canolig (2024 ymlaen) bydd yn newid ei gerbydau mwy am gerbydau trydan (neu gerbydau allyriadau isel iawn).
Mae Menter Môn mewn partneriaeth â Medrwn Môn a Cyngor Sir Ynys Môn wedi gosod pum pwynt gwefru mewn hybiau cymunedol ledled yr ynys.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i ddatblygu ychwaneg o safleoedd mewn lleoliadau strategol ledled yr Ynys ac mae datblygiadau pellach yn ddibynnol ar sicrhau cyllid allanol.
Rhestr o’r safleoedd lle cafodd pwyntiau gwefru eu gosod dan arweiniad y cyngor
Safle
|
Lleoliad
|
Cod post
|
Math o wefrwr
|
Cyflenwr
|
Socedi ar gael
|
Maes parcio Noddfa
|
Amlwch
|
LL68 9ET
|
Gwefrwr Dwbl (Chwim 70kVa a Chyflym 22kVa)
|
SWARCO
|
2
|
Maes parcio Ffordd Fictoria
|
Caergybi
|
LL65 1UD
|
Gwefrwr Dwbl (Chwim 70kVa a Chyflym 22kVa)
|
SWARCO
|
2
|
Maes parcio Iard y Stesion
|
Llangefni
|
LL77 7ND
|
Gwefrwr Dwbl (Chwim 70kVa a Chyflym 22kVa)
|
SWARCO
|
2
|
Maes parcio Neuadd y Dref
|
Llangefni
|
LL77 7LR
|
Gwefrwr Dwbl (Chwim 70kVa a Chyflym 22kVa)
|
SWARCO
|
2
|
Maes parcio’r Llyfrgell
|
Porthaethwy
|
LL59 5AS
|
Gwefrwr Dwbl (Chwim 70kVa a Chyflym 22kVa)
|
SWARCO
|
2
|
Unedau busnes Pen yr Orsedd
|
Parc Bryn Cefni
|
LL7JA
|
Araf (7kW)
|
BP Chargemaster
|
6
|
Canolfan Fusnes Ynys Môn
|
Cyngor Sir Ynys Môn
|
LL77 7XA
|
Araf (7kW)
|
BP Chargemaster
|
8
|
Unedau 17a-26a
|
Ystâd Ddiwydiannol Penrhos
|
LL65 2FD
|
Araf (7kW)
|
BP Chargemaster
|
6
|
Unedau 1A i 6A
|
Parc Diwydiannol Tregarnedd
|
LL77 7JD
|
Araf (7kW)
|
BP Chargemaster
|
4
|