Eich adborth ar y cyfyngiad 20mya ar Ynys Môn
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu cynlluniau ar gyfer adolygu’r cyfyngiadau cyflymder 20mya ar 23 Ebrill 2024.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn derbyn awgrymiadau o ran pa ffyrdd yr ydych o’r farn ddylai:
- newid o 20mya i 30mya
- newid o 30mya i 20mya
- aros yn 20mya
Nid ydym yn derbyn adborth bellach
Mae'r cyngor bellach wedi rhoi'r gorau i dderbyn mwy o adborth fel rhan o'r adolygiad terfyn cyflymder 20mya.
Dogfen ganllawiau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen ganllawiau i’w defnyddio gan awdurdodau priffyrdd ar y gwaith o osod cyfyngiadau cyflymder o 30mya ar ffyrdd cyfyngedig lle mae’r cyfyngiad ar hyn o bryd yn 20mya.
Y camau nesaf
Byddwn yn adolygu'r holl sylwadau a dderbyniom, ac yn eu hasesu yn erbyn y canllawiau diwygiedig.
Rhestr o'r ffyrdd y gofynnwyd i ni edrych arnynt
- Amlwch A5025
- Bae Cemaes, A5025 cylchfan tuag at Tregele
- Bae Trearddur, B4545 Lon St Ffraid Dwyrain
- Bae Trearddur, Ravenspoint Road
- Benllech, A5025
- Biwmares o gyfeiriad A545
- Biwmares o gyfeiriad B5109
- Bodffordd, o gyfeiriad A5
- Bryn Du, ffordd dienw Dosbarth 3
- Brynteg B5110
- Caergeiliog, o gyfeiriad A5 Bryngwran
- Caergybi A5153, Parc Cybi
- Caergybi A5154, Victoria Road
- Capel Coch, ffordd dienw Dosbarth 3
- Gaerwen, A5
- Gaerwen, Lon Groes-Ffordd Stad Ddiwydiannol
- Gwalchmai, A5
- Llanddaniel, o gyfeiriad A5
- Llanddaniel, o gyfeiriad Llanedwen
- Llanddaniel, o gyfeiriad y groesfan reilffordd
- Llandegfan, Lon Ganol
- Llanfachraeth, A5025
- Llanfaes, ffordd dienw Dosbarth 3 o’r B5109
- Llanfaethlu, A5025
- Llanfair PG A5025 wrth y safle parcio a teithio
- Llanfihangel yn Nhowyn, RAF Y Fali, Ffordd Minffordd
- Llangaffo, B4419
- Llangefni, Ffordd Glanhwfa A5114
- Llangefni, Ffordd Stad Ddiwydiannol
- Niwbwrch, A4080 o gyfeiriad Malltraeth
- Pentraeth, B5109 o gyfeiriad Biwmares
- Pentraeth, B5109 o gyfeiriad Talwrn
- Pontrhydybont, B4545
- Porthaethwy, B5420 Ffordd Pentraeth, o garej Shell i Four Crosses
- Porth Llechog, A5025
- Rhosmeirch, B5111 o gyfeiriad Coedana
- Rhosneigr, A4080 o gyfeiriad Llyn Maelog
- Rhostrehwfa, B4422
- Rhosybol B5111 o gyfeiriad Llannerch-Y-Medd
- Talwrn, B5109 Ffordd Talwrn
- Y Fali, A5
Wrth benderfynu a ddylai stryd/ffordd fod â therfyn cyflymder uwch, rhaid i'r awdurdod fod yn sicr na fydd unrhyw gynnydd o'r fath yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Unwaith y byddwn wedi cwblhau ein hadolygiad, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniadau ar y dudalen hon.
Sylwch na fyddwn yn gallu rhoi adborth unigol i bob sylw a dderbyniwn.
Os yw'r canllawiau diwygiedig yn awgrymu bod stryd/ffordd yr ydym wedi derbyn adborth arni yn addas ar gyfer terfyn cyflymder o 30mya, byddwn yn egluro hyn pan fyddwn yn cyhoeddi canlyniadau'r adolygiad.
Bydd strydoedd/ffyrdd lle na fyddai 30mya yn addas o dan y canllawiau diwygiedig yn aros ar y terfyn cyflymder diofyn o 20mya.
Ar gyfer unrhyw stryd/ffordd lle mae'r canllawiau diwygiedig yn awgrymu y gallai terfyn cyflymder o 30mya fod yn addas, byddwn yn cynhyrchu gorchymyn rheoleiddio traffig (TRO), sy'n broses gyfreithiol y mae'n rhaid i ni ei dilyn os ydym am newid y terfyn cyflymder.
Bydd pob TRO yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, lle gall preswylwyr ddangos cefnogaeth neu godi gwrthwynebiadau. Byddwn yn cyhoeddi manylion unrhyw newidiadau ar y dudalen hon.
Yn dilyn yr ymgynghoriadau TRO, bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar unrhyw newidiadau fel rhan o brosesau gwneud penderfyniadau arferol y cyngor.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu unwaith y byddwn wedi cwblhau ein hadolygiad.
Cymunedau mwy diogel
Yn flaenorol, roedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyflwyno cyfyngiadau cyflymder cynghori 20mya y tu allan i ysgolion oherwydd y buddion iechyd a diogelwch cydnabyddedig.
Amcangyfrifodd astudiaeth iechyd cyhoeddus yng Nghymru y gallai'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya arwain at:
- 40% yn llai o wrthdrawiadau
- arbed 6 i 10 o fywydau bob blwyddyn
- osgoi 1200 i 2000 o bobl yn cael eu hanafu bob blwyddyn
Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i gerdded a beicio pan fydd cyflymder cerbydau yn arafach, ac mae'n fwy diogel i blant gerdded i'r ysgol; Mae pobl hŷn, pobl anabl neu bobl ag anghenion ychwanegol hefyd yn fwy abl i deithio'n annibynnol.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ac atebion i gwestiynau cyffredin am 20mya ar wefan Llywodraeth Cymru.