Gweithdy am ddim ar lein i yrwyr 65 oed a hŷn wedi ei drefnu gan Uned Diogelwch y Ffyrdd, Cyngor Sir Ynys Môn.
Dydd Iau, Mawrth 25 ain cofrestru 1:30pm , cychwyn 2pm
Wrth i ni fynd yn hŷn , mae’n debygol y byddwn:
- yn cymryd mwy o amser i ymateb
- yn cymryd mwy o amser i wneud penderfyniadau
- yn gweld ein golwg a’n clyw yn dirywio
- yn cymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn
- yn gweld ein symudedd cyffredinol yn dirywio
Gall y newidiadau yma effeithio ar y ffordd rydych chi’n gyrru ac mae rhai gyrwyr yn gweld y newidiadau yma pan maen nhw yn eu pumdegau. Gall rhan fwyaf o bobl barhau i yrru’n ddiogel heb unrhyw broblem wrth iddyn nhw heneiddio ond mae hyn yn haws efo rhywfaint o help gan weithiwr gyrru proffesiynol.
Cynhelir y gweithdy gyrru yma gan Hyfforddwr Gwasanaeth Asesu Gyrru a Symudedd Cymru. Bydd yr hyfforddwr yn gallu rhoi awgrymiadau defnyddiol i chi ar sut i addasu eich dull gyrru wrth i chi fynd yn hyn, gan helpu i’ch cadw chi a defnyddwyr eraill y ffyrdd yn ddiogel, a’ch cadwch chi tu ôl yr olwyn yn hirach.
I gofrestru neu am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost:
DiogelwchfyrddRoadSafety@ynysmon.gov.uk