Os ydych yn ddatblygwr eiddo newydd (datblygiad sengl neu fechan), dylech gysylltu cyn gynted ag y byddwch yn dechrau’r gwaith ar y safle.
Bydd datblygiad sengl neu fychan fel arfer yn cael ei enwi neu ei rifo i mewn i’r stryd bresennol. Os bydd eiddo wedi eu henwi yn y stryd, byddwn yn dilyn ein proses ‘Enwi eich Ty’ arferol. Os nad ydych mewn sefyllfa i roi enw i’r eiddo ar adeg ei adeiladu, efallai byddwn yn cytuno i ddefnyddio rhifau plot y datblygwr i ddechrau i gofrestru cyfeiriad yr eiddo ac wedyn, pan fydd y perchennog newydd yn dewis enw, bydd yn rhaid iddynt ddilyn ein proses arferol i Newid Enw Eiddo.
Lle nad oes sustem rhifo mewn stryd a lle bydd angen dewis enw i’r tŷ (tai), fe’ch anogir i fathu enw(au) Cymraeg, yn unol â Polisi ar Enwi a Rhifo Strydoedd a Thai y Cyngor.
Bydd y wybodaeth hon wedyn yn cael ei hanfon i gyfleustodau cyhoeddus, gwasanaethau argyfwng, Y Gofrestrfa Dir, Arolwg Ordnans a gwasanaethau
perthnasol y Cyngor. Byddwch hefyd yn derbyn copi o’r cyfeiriad cofrestredig a byddwn yn gofyn i chi hysbysu eich prynwyr tebygol o gyfeiriad eu heiddo newydd.
Pe bai cais yn cael ei gyflwyno yn hwyr ac yn cael ei wrthod wedi hynny, fe all nifer o broblemau godi, yn arbennig os yw prynwyr wedi prynu eiddo wedi’u marchnata o dan enw nad oedd wedi’i gymeradwyo.
Cynghorir chi yn gryf iawn felly i fod yn wyliadwrus iawn yn y defnydd o enwau i farchnata eich datblygiad newydd oherwydd pe bai’n methu â chyfarfod y meini prawf penodol ni fydd yn derbyn cymeradwyaeth y Cyngor, ac ni fydd felly yn cael ei gadw fel rhan o’r cyfeiriad. Dylai unrhyw wybodaeth a ddosberthir i ddarpar brynwyr nodi’n glir na fydd yr enw marchnata o anghenraid yn ffurfio rhan o gyfeiriad yr eiddo.
Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.