Er mwyn hybu neges y 5 Angheuol, rydym yn gwahodd ysgolion, colegau a mudiadau ieuenctid Cymru i ddyfeisio, perfformio a recordio ffilm fer a fydd yn rhybuddio am beryglon a chanlyniadau gyrru ac yfed/cymryd cyffuriau, cyflymder, gyrru diofal, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Bydd y cynigion buddugol yn cael eu rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru i godi ymwybyddiaeth am y 5 Angheuol.
Efallai yr hoffech ystyried gwneud cynnig ar thema’r terfyn cyflymder 20mya, y bwriedir iddo fod yn derfyn diofyn ar gyfer ardaloedd preswyl Cymru erbyn mis Ebrill 2023.
Canllawiau’r gystadleuaeth
- Dylai aelodau'r tîm fod rhwng 11 a 25 oed.
- Rhaid i'r cyflwyniad bara am lai na 30 eiliad a gall gynnwys
- perfformiad cerddorol
- drama/sgetsh
- barddoniaeth/anerchiad
- animeiddio
- rhaglen ddogfen
- comedi
- dawnsio
- Dylid anfon cynigion at Diogelwch Ffyrdd Cymru, 2 Cwrt-y-Parc, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GH ar DVD neu i communication@roadsafetywales.org.uk ar ffurf MP4/WMV drwy Dropbox neu WeTransfer.
- Dylid cyflwyno crynodeb ysgrifenedig byr gyda phob cais yn disgrifio'r profiad o greu'r ffilm a sut y gellid ei defnyddio i godi ymwybyddiaeth o'r Pump Peryglus.
- Rhaid i unrhyw gerddoriaeth, cynnyrch neu waith celf yn y ffilm fod yn wreiddiol a heb fod yn destun cyfreithiau hawlfraint neu ffafrio unrhyw unigolyn, cwmni neu sefydliad (megis dangos brandiau alcohol neu sigaréts).
- Caiff y cyflwyniad ei feirniadu ar sail gwreiddioldeb, perfformiad, effaith a'r neges sy'n cael ei chyfleu.
Bydd y ffilmiau buddugol yn cael eu dewis hyd at 2 gwaith y flwyddyn a bydd y timau llwyddiannus yn derbyn £250 ar gyfer yr ysgol, y coleg neu'r sefydliad yng Nghymru y maent yn eu cynrychioli ynghyd â phlac coffa. Lle bo'n briodol, gellir symud cynigion eraill ymlaen i'r cylch beirniadu nesaf.
Dyma'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno'r ffilmiau byr:
- Dydd Gwener, 19 Tachwedd 2021
- Dydd Gwener, 11 Mawrth 2022
Yn ôl disgresiwn Diogelwch Ffyrdd Cymru, bydd cynigion eithriadol yn cael eu hystyried ar gyfer gwobr flynyddol a fydd yn cynnwys swm ychwanegol o £250.
Rydym yn edrych ymlaen at wylio eich ffilm.