Cyngor Sir Ynys Môn

Gwasanaeth llyfrgell plant a phobl ifanc


Mae llyfrgelloedd Môn yn darparu llyfrau ac adnoddau gwybodaeth i blant o bob oedran a gallu.

Mae llyfrgelloedd Môn yn darparu llyfrau ac adnoddau gwybodaeth i blant o bob oedran.  Mae ymuno yn rhad ac am ddim ac nid ydych yn gorfod talu dirwy os yw’ch llyfrau yn hwyr!

Mae dewis helaeth o lyfrau stori i blant ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â llyfrau ar CD a  DVDs . Mae llyfrau gwybodaeth ar gael ar gyfer amser hamdden yn ogystal â chefnogi gwaith cartref.

Gellir defnyddio cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim ym mhob llyfrgell ym Môn. Bydd angen goruchwyliaeth rhiant / gwarchodwr ar gyfer plant o dan 13. Bydd angen caniatâd ysgrifenedig rhiant / gwarchodwr ar gyfer plant 13 - 16.

Mae sesiynau Rhannu Rhigwm yn cael eu cynnal mewn tair o’n llyfrgelloedd. Sesiynau i blant a babanod dan bump oed yn ystod tymor ysgol yn unig yw’r rhain. Straeon a rhigymau a digon o hwyl  - i gyd am ddim.

Dechrau da

Mae hwn yn gynllun cenedlaethol sy’n helpu teuluoedd i ddarganfod a mwynhau yr hwyl o rannu llyfrau.  Mae pob baban yn derbyn pecyn Dechrau Da ar ei asesiad iechyd rhwng  8 - 12 mis oed gan ei ymwelydd iechyd a phecyn Blynyddoedd Cynnar ar ei asesiad iechyd 24 mis - am ddim.

Os nad ydych wedi derbyn eich pecyn Dechrau Da na'ch pecyn Blynyddoedd Cynnar - holwch eich ymwelydd iechyd.

Rhagor o wybodaeth: Gwefan Dechrau Da