Cyngor Sir Ynys Môn

Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Cymru


Amcan y cynllun yw gwella cyfleoedd i fwy o bobl ar Ynys Môn gyflawni eu potensial drwy weithgareddau awyr agored.

Ein gweledigaeth yw cyflawni ynys iach lle mae hamdden awyr agored yn darparu llwyfan cyffredin  ar gyfer cymryd rhan, hwyl a chyflogaeth sy’n clymu cymunedau lleol.

Amcanwn at gyflawni  hyn drwy  ddatblygu, hybu a chyflwyno rhaglenni gweithgareddau awyr agored, gweithio gyda grwpia cymunedol lleol, ysgolion, gwasanaeth ieuenctid a grwpiau targed eraill  i gwrdd ag anghenion lleol, gan felly ddarparu profiadau ‘tro cyntaf’ priodol mewn gweithgareddau awyr agored ar lefel  dewis personol.

Pe baech yn dymuno gwirfoddoli gyda phrosiectau gweithgareddau awyr agored cysylltwch â ni yn yr wybodaeth isod.

Swyddog gweithgaredd awyr agored Ynys Môn.

01248 752036/07766602597

awyragored@ynysmon.gov.uk

Am wybodaeth cyffredinol ar glybiau awyr agored, swyddi gwag a mwy dilynwch y cyswllt isod.

Mewnrhwyd - dim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.

Partneriaeth Awyr Agored