Rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn y cefndir er mwyn creu amgylchedd diogel i chi allu ymweld ag ef ac rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau.
Bydd gan bawb ran i’w chwarae er mwyn cadw ein canolfannau yn ddiogel a byddwn yn gofyn i chi gadw at reolau penodol hefyd.
Sicrhau eich iechyd a’ch diogelwch chi yw’r brif flaenoriaeth. Dyna pam yr ydym yn cyflwyno gweithdrefnau glanhau a chadw pellter cymdeithasol newydd.
Glanhau, glanweithdra a diheintio
Byddwn yn diheintio’r offer yn y gampfa drwy gydol y dydd, byddwn yn glanhau ystafelloedd newid y pwll nofio ar ôl pob sesiwn ac yn glanhau’r ganolfan gyfan bob nos. Mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant glanhau.
Bydd Aelodau yn cael eu hannog i ddiheintio eu dwylo wrth y dderbynfa, mae unedau diheintio dwylo ychwanegol wedi eu gosod mewn mannau allweddol a bydd gorsafoedd glanhau wedi eu lleoli o amgylch yr ystafelloedd ffitrwydd.
Cadw Pellter Cymdeithasol
Byddwch yn gweld arwyddion cadw pellter cymdeithasol o amgylch y ganolfan, yn ogystal ag arwyddion systemau unffordd lle bo hynny’n bosibl. Rydym hefyd yn cyfyngu nifer yr aelodau a ganiateir mewn gwahanol ardaloedd megis yn yr ystafelloedd ffitrwydd, yn y dosbarthiadau ffitrwydd, yn y pwll nofio a’r ystafelloedd newid.
Noder: ni fydd ystafelloedd newid yr ochr sych ar gael am y tro. Bydd aelodau sy’n defnyddio’r pwll nofio yn gallu defnyddio ystafelloedd newid y pwll nofio.
Dosbarthiadau ffitrwydd
Rydym yn cynnal dosbarthiadau llai er mwyn cadw pawb yn ddiogel.
Dim ond dosbarthiadau penodol fyddwn ni’n eu cynnal er mwyn sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol.
Amddiffyn chi a’n timau
Rydym wedi gosod sgriniau plastic yn ein derbynfeydd a byddwn yn darparu ein staff â chyfarpar diogelu personol (PPE) os oes angen.