Cyngor Sir Ynys Môn

Gwasanaethau Iechyd Meddwl


Pwy ydym ni?

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) sydd wedi ei gydleoli yn Ysbyty Cefni yn Llangefni. Rydym yn cynnig cymorth arbenigol ar gyfer problemau iechyd meddwl ac emosiynol i bobl a’u teuluoedd.

Sut fedr pobl gael at y gwasanaeth?

Gall hyn ddigwydd mewn amryw o ffyrdd ond fel arfer, o ganlyniad i gyswllt gyda’ch Meddyg Teulu.

Beth ydym ni’n ei wneud?

Efallai y bydd y cymorth a gynigir ar ffurf cwnsela i unigolion neu weithgaredd grŵp. Efallai y byddwch yn cael eich gweld gan unrhyw un o nifer o wahanol bobl broffesiynol - Seicolegydd Clinigol, Nyrs Seiciatryddol Gymunedol, Seiciatrydd, Gweithiwr Cymdeithasol, Therapydd Galwedigaethol, Gweithwyr Cymorth - y cyfan yn arbenigo mewn problemau iechyd meddwl. Efallai y cynigir y gwasanaeth yn Ysbyty Cefni neu yn eich cartref eich hun.

Rydym yn darparu gwasanaeth integredig o fewn fframwaith Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, er mwyn nodi a chynorthwyo gydag anghenion cymorth unigolion, eu teuluoedd a gofalwyr a all fod yn dioddef yn sgil problemau iechyd meddwl. Fel arfer, rhoddir blaenoriaeth i’r rheini sydd â chyflyrau meddyliol difrifol neu gymhleth gan eu galluogi i fyw bywydau mor llawn ag sy’n bosibl o fewn eu cymunedau drwy helpu i wella eu lles cyffredinol a’u hannibyniaeth.

Yn ogystal, gellir cael at gymorth Iechyd Meddwl sylfaenol yn lleol drwy Feddyg Teulu. Bwriad y gwasanaeth hwn yw cynnig asesiad, triniaeth am y tymor byr a chefnogaeth i’r unigolion hynny nad oes angen iddynt gael eu gweld gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl gofal eilaidd (TIMC). 

Asesiad a Chymhwyster ar gyfer Gwasanaethau

Os oes angen i chi gael eich cyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, bydd aelod o staff yn cynnal asesiad manwl i ddysgu mwy amdanoch, a’r help y bydd efallai ei angen arnoch. Bydd yr asesiad hwn o gymorth i ni benderfynu gyda’n gilydd a yw eich anghenion o fewn ein meini prawf cymhwyster, ac a fyddai efallai’n briodol i ni gynnig help i chi. Os nad oes arnoch angen y gwasanaeth hwn, byddwn fel arfer yn helpu i’ch cyfeirio i wasanaeth mwy addas.

Os ydych yn gymwys i dderbyn gwasanaeth, bydd Cydlynydd Gofal yn cael ei benodi i weithio gyda chi i nodi a chytuno ar y gwasanaethau mwyaf priodol ar eich cyfer ac i lunio Cynllun Gofal a Thriniaeth. Mae Cynllun Gofal a Thriniaeth yn gytundeb ysgrifenedig sy’n nodi’r cymorth a’r gefnogaeth yr ydych eu hangen.

Gweithio gyda Gofalwyr

Os oes gennych ofalwr - cyfaill neu berthynas nad yw’n derbyn cyflog ond sy’n edrych ar eich hôl neu’n eich cefnogi’n rheolaidd - gallwn drefnu i rywun gynnal asesiad o’u hanghenion hwy hefyd. Rydym yn trefnu cefnogaeth ar gyfer gofalwyr gan sefydliad annibynnol sef Hafal. 

Eich Rhyddhau o’r Gwasanaeth

Mae nifer o bobl sy’n cael eu rhyddhau o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn ansicr ynglŷn â’r modd y gallant gael mynediad eto i’r Gwasanaeth petai angen hynny arnynt. Gall pobl sy’n cael eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (megis gwasanaethau gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol) eu cyfeirio eu hunain yn ôl i’r gwasanaeth ar gyfer eu hasesu o fewn cyfnod o 3 blynedd. Os yw person wedi cael ei ryddhau o wasanaethau eilaidd am gyfnod sy’n hwy na 3 blynedd, yna rhaid iddynt fynd at eu Meddyg Teulu am asesiad. 

Cyfrinachedd

Mae holl aelodau’r tîm yn parchu ac yn sensitif i faterion cyfrinachedd o ran amgylchiadau personol eu cleientiaid. Yn aml, byddant yn gofyn am gyngor ar agweddau o ofal gan eu cydweithwyr proffesiynol. Caiff gwybodaeth ei chofnodi ar ffurf nodiadau ac ar system gyfrifiadurol. Mae gan gleientiaid hawliau statudol i weld y cofnodiadau hyn. (Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm os gwelwch yn dda, neu gyda’ch cydlynydd gofal os oes gennych un). 

Ymgysylltu gyda Defnyddwyr

Rydym yn awyddus i ymgysylltu gyda defnyddwyr gwasanaeth a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud. Anogir defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan mewn penderfyniadau ynglŷn â’u gofal ac i gymryd rhan mewn amrediad o grwpiau rheoli a llunio polisïau. 

Y Drefn Gwyno

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau am ein gwasanaethau – da neu ddrwg. Os ydych chi’n anhapus gyda’r gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn, rydym yn eich annog i wneud cwyn. Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn drefniadau cwyno. Mae gwybodaeth ynglŷn â’r trefniadau hyn ar gael ar gais gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac ar wefannau’r asiantaethau. Os ceir cwyn sy’n ymwneud â’r ddwy asiantaeth, yna efallai y byddwn yn ymchwilio i’r gwyn gyda’n gilydd ac yn darparu un ymateb ar y cyd. 

Myfyrwyr

Mae’r tîm yn gyfrifol am hyfforddi swyddogion proffesiynol. Efallai y byddwn yn gofyn i fyfyrwyr gael ymwneud â’ch gofal a gallwch drafod hyn gydag aelod o’r tîm cymunedol. 

Grwpiau Annibynnol a Gwirfoddol

Mae’r Gwasanaeth yn gweithio’n agos gydag asiantaethau annibynnol a gwirfoddol pan fydd yn edrych am y ffordd fwyaf priodol o ddarparu gofal a chefnogaeth. Gellir cael rhagor o wybodaeth gan y tîm neu’r cydlynydd gofal.