At ba fath o waith y mae’r grant ar gael?
Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn grant gorfodol ac mae ar gael i ddarparu cyfleusterau i bobl anabl mewn anheddau ac mewn rhannau cyffredin o adeilad sy’n cynnwys un neu fwy o fflatiau.
Eu prif nod yw ei gwneud yn haws i’r person anabl gael i mewn a mynd o amgylch ei g/chartref a defnyddio’r cyfleusterau ynddo.
Diffiniad o amgylchiadau sy’n gymwys
- cyflyrau dwys sydd yn golygu yr amherir yn ddifrifol ar iechyd neu ddiogelwch cleientiaid / gofalwyr oni fyddai’r gwaith yn cael ei wneud ar unwaith
- unigolion sy’n cael eu hasesu fel rhai all fod mewn perygl o wneud niwed iddynt eu hunain neu ofalwyr os na fydd addasiadau’n cael eu gwneud
- unigolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain heb gefnogaeth ac a fyddai angen mynd i gartref nyrsio neu breswyl pe na bai’r addasiadau’n cael eu gwneud
- newid neu drwsio offer hanfodol e.e. lifft grisiau, peiriant codi ar drac o’r nenfwd
- unigolion gyda diagnosis o fod yn derfynol wael ac sydd wedi cael cadarnhad meddygol bod y prognosis yn wael
- unigolion gyda salwch dirywiol sydd wedi ei gadarnhau’n feddygol
- hwyluso mynediad diogel i gyfleusterau priodol ar gyfer ymolchi, toiledu a chysgu a sicrhau defnydd addas o gyfleusterau / offer o fewn y cartref
-
Pwy sy’n gymwys?
- rhaid i’r ymgeisydd fod yn berchennog, tenant neu drwyddedai annedd sydd i’w haddasu. Dylai tenant fod â chytundeb tenantiaeth ddilys
- rhaid i’r gwaith arfaethedig fod er budd deilydd anabl
- i bwrpas y grant hwn, bydd ‘person anabl’ yn golygu person sydd wedi ei gofrestru’n anabl neu unrhyw berson arall y gwnaed trefniadau lles ar ei g/chyfer neu y gall trefniadau o’r fath gael eu gwneud ar ei gyfer/chyfer ym marn yr awdurdod lles
Oes yna unrhyw beth arall y mae angen i chi ei wybod?
Efallai y bydd cymorth grant ar gael yn Ynys Môn i’r holl bwrpasau a restrir uchod, cyn belled a bod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried bod y gwaith arfaethedig yn angenrheidiol ac yn briodol i gyfarfod ag anghenion y deilydd anabl a bod yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried bod y gwaith yn rhesymol ac yn ymarferol o ystyried oed a chyflwr yr annedd.
Mae’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn ddibynnol ar brawf modd (ac eithrio yn achos plentyn o dan 18 oed) ac fe’i blaenoriaethir yn unol â pholisi’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Faint fydd raid i mi ei dalu?
Os ydych yn dymuno gwneud cais am grant, bydd yn rhaid i chi, yn gyntaf, lenwi Ffurflen Gais fel y gall y Cyngor asesu eich gallu i dalu am y gwaith eich hun.
Peidiwch â gadael i hyn eich digalonni oherwydd yn gyntaf, bydd yr holl fanylion y byddwch yn eu rhoi yn cael eu cadw’n gyfrinachol a hyd yn oed os ydych yn cael incwm da, efallai y bydd gennych hawl o hyd i gael rhywfaint o grant os oes llawer o waith i’w wneud. Y Cyngor fydd yn penderfynu pa waith sy’n gymwys am grant.
Beth ddylech chi ei wneud nesaf?
Os ydych yn credu y bydd Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn briodol i chi, fe ddylech yn y lle cyntaf siarad gyda’ch Therapydd Galwedigaethol Cymunedol.
Os nad oes gennych un, dylech gysylltu â’r Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a gofyn iddynt ymweld â chi - gweler y manylion cyswllt ar y ochr dde.
Os bydd ef neu hi yn credu y bydd grant o fantais i chi, byddant yn gwneud argymhelliad i’r Swyddog Addasiadau Tai.
Bydd eich Therapydd Galwedigaethol Cymunedol a’r swyddog fydd yn ymweld â chi o’r Adran Gymunedol yn eich helpu gyda’r gweddill.
Os ydych yn mynd i gyflwyno cais am gymorth grant, peidiwch â dechrau unrhyw waith hyd nes bydd eich cais wedi ei gymeradwyo neu ei wrthod yn ysgrifenedig. Os byddwch yn dechrau unrhyw waith, ni fyddwch mwyach yn gymwys i gael cymorth.