Cyngor Sir Ynys Môn

Gweithdy Mona


Canolfan ByronErs syfydlu yn 1975 mae’r Gweithdy wedi bod yn cynnig cyfleoedd gwaith a chyflogaeth ar gyfer pobl ag anableddau corfforol a dysgu.

Mae'r Gweithdy yn cynnwys pedwar adran, sef gwaith coed, clustogwaith, gwaith allanol a garddio.

Mae'r uned weithgynhyrchu brysur yn cynhyrchu cynhyrchion pren amrywiol e.e. topiau bwrdd, bocsys allforio, eitemau garddio, bocsys tegana, cadeiriau ac anrywiaeth o waith crefft.  Mae gennym beiriant CNC sy'n defnyddio y broses o ddefnydd gyfrifiaduron i reoli peiriannau. Mae ein cynnyrch yn cael eu werthu ledled y wlad.

Yn yr adran clustogwaith rydym yn gwneud rhan cydran ar gyfer cadeiriau ysbytai ac gwaith ail gyfro.

Mae ein tîm gwaith allanol yn gweithio'n agos gyda therapydd galwedigaethol, ymgynghorwyr anabledd ac ymwelwyr Iechyd i sicrhau bod pobl Ynys Môn yn gallu aros yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Rydym yn cyflenwi a gosod canllawiau, rampiau / grisiau pwrpasol, cymorth ymolchi, offer diogelwch, giatiau grisiau a gwarchodlu.

Ein hadran mwyaf diweddar yw'r garddio. Mae hyn yn cynnwys rhywfaint o arddio a phlannu wahanol blanhigion mewn amgylchedd tŷ gwydr twnnel polythen.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ar 01407 883333 neu e-bost: canolfanbyron@ynysmon.llyw.cymru