Os oedd y rhieni’n briod pan aned y plentyn, gall y fam neu’r tad gofrestru’r babi.
Fodd bynnag, os nad oedd y rhieni’n briod, dim ond os bydd y fam a’r tad yn mynd efo’i gilydd i’r Swyddfa Gofrestru i gofrestru’r enedigaeth y gellir cofnodi manylion y tad ar y gofrestr.
Os nad ydych yn briod, ac eisiau cynnwys manylion y tad ar y gofrestr, ond os na all fod yn bresennol am unrhyw reswm, cysylltwch efo’r Swyddfa Gofrestru am gyngor pellach.
Nodyn i gyplau di-briod
O 1 Rhagfyr 2003, bu newid yn y gyfraith, oedd yn ei gwneud yn haws i dadau di-briod gael cyfrifoldeb rhieni cyfartal. I wneud hyn, rhaid i’r ddau riant gofrestru genedigaeth y babi gyda’i gilydd.
Mae cael cyfrifoldeb rhieni am eich plentyn yn rhoi hawliau cyfreithiol pwysig i chi yn ogystal â chyfrifoldebau. Heb y rhain, does gennych ddim hawl i gael eich cynnwys mewn penderfyniadau am y plentyn, fel ble mae nhw’n byw, eu haddysg, crefydd neu driniaeth feddygol. Gyda chyfrifoldeb rhieni, bydd y gyfraith yn eich trin fel rhiant a bydd gennych gyfrifoldeb cyfartal wrth fagu’r plentyn.
Mae gan Parentline Plus linell gymorth am ddim, lle cewch drafod yr opsiynau a gofyn am gyngor. Gallwch eu ffonio ar 0808 800 2222 neu Ffôn testun 0800 783 6783.