Cyngor Sir Ynys Môn

Storm Darragh: gwybodaeth


Diweddariadau

Rhybudd tywydd coch ar gyfer gwyntoedd cryfion ar Ynys Môn bore Sadwrn gyda perygl i fywyd 

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi’r rhybuddion tywydd canlynol ar gyfer Ynys Môn dros y dyddiau nesaf:

  • Rhybudd tywydd melyn ar gyfer gwyntoedd cryf (Dydd Gwener 3pm i 3am dydd Sadwrn)
  •  Rhybudd tywydd melyn am law (Dydd Gwener 3pm i hanner dydd ar Dydd Sadwrn)

Rhybudd tywydd coch ar gyfer gwyntoedd cryfion ar Ynys Môn Dydd Sadwrn 3am i 11am gyda perygl i fywyd

  • Rhybudd tywydd oren ar gyfer gwyntoedd cryf (dydd Sadwrn 11am i 9pm)
  • Rhybudd tywydd melyn ar gyfer gwyntoedd cryf (dydd Sadwrn 9pm i 6am dydd Sul)

Cadwch lygad ar wefan Met Office am ddiweddariadau rhybuddion tywydd rheolaidd.  

Pont Britannia

O ganlyniad i’r rhybuddion tywydd uchod, mae’n bosib y bydd angen cau Pont Britannia am gyfnodau o amser - gall hyn gynnwys cau’n llawn ar gyfer pob cerbyd yn ystod y rhybudd tywydd coch.

Ewch i Traffig Cymru am y diweddariadau traffig yng Ngogledd Cymru.

Rydym hefyd yn rhagweld efallai y bydd angen cau rhai ffyrdd ar draws Ynys Môn am gyfnodau o amser oherwydd fod coed wedi disgyn.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales yn darparu gwybodaeth am rybuddion llifogydd a chyngor.

Cynlluniwch ymlaen llaw a teithiwch, dim ond os oes angen, yn ystod y cyfnodau yma.

Gwasanaethau'r cyngor

O ganlyniad i Storm Darragh, byddwn yn cymryd y camau diogelwch canlynol: 

Canolfannau hamdden

Cau ein canolfannau hamdden yn Amlwch; Caergybi; David Hughes, Porthaethwy a Phlas Arthur, Llangefni yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr). 

Canolfannau ailgylchu gwastraff domestig Penhesgyn a Gwalchmai

Cau canolfannau ailgylchu gwastraff domestig Penhesgyn a Gwalchmai yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr). 

Llyfrgelloedd

Cau pob llyfrgell yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr). 

Oriel Môn

Cau Oriel Ynys Môn a’r caffi yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr). 

Toiledau cyhoeddus

Cau pob toiled cyhoeddus yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr). 

Parciau gwledig

Cau Parc Gwledig Morglawdd Caergybi a Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy, Llangefni yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr). 

Pier

Cau Pier Biwmares a Pier San Siôr, Porthaethwy yfory (Dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr). 

Gatiau llifogydd ym Miwmares, Bae Trearddur a Porth Llechog

Mae’r gatiau llifogydd ym Miwmares, Bae Trearddur a Porth Llechog eisoes wedi cau. Er mwyn eich diogelwch, gofynnwn yn garedig i chi beidio ag agor y gatiau llifogydd. 

Cymerwch ofal o amgylch yr arfordir.