Mae’n bwysig iawn cefnogi gofalwyr sydd angen meddyginiaeth yn ystod y pandemig presennol. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Llywodraeth Cymru, Gofalwyr Cymru, Cymdeithas Ffarmacolegol Prydain a Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi bod yn cydweithio i ddeall y pwysau sy’n wynebu gofalwyr yn ystod yr amser hwn ac i gynnig ffyrdd y gellir eu cefnogi.
Rydyn ni wedi clywed mai’r problemau allweddol sy’n wynebu gofalwyr di-dâl wrth gael gafael ar feddyginiaethau ar hyn o bryd ydy:
- Ymdopi â chiwiau hir yn y fferyllfa o ganlyniad i fesurau cadw pellter cymdeithasol
- Cael gafael ar slotiau danfon meddyginiaethau a threfnu’r rhain
- Gofalwyr ifanc yn cael gwrthod mynediad i fferyllfeydd
Fe hoffem ni felly alw ar dimau fferyllol i gefnogi gofalwyr trwy
Roi cefnogaeth a gwybodaeth i gynorthwyo gofalwyr di-dâl yn y siop
- Caniatáu i 2 o bobl fod yn y siop pan nad oes gan y gofalwyr unrhyw ddewis ond mynd â’r person y mae’n gofalu amdano/amdani gyda nhw i mewn i’r fferyllfa
- Addasu pethau fel bo angen i gefnogi’r gofalwr a’r person y mae’n gofalu amdano/ amdani
- Ystyried blaenoriaethu gofalwyr di-dâl pobl agored i niwed / sy’n cael eu gwarchod i gael slotiau danfon meddyginiaethau
- Adolygu canllawiau ar ‘Blant yn casglu meddyginiaethau o fferyllfa’ a chydnabod mai, i rai teuluoedd, gofalwyr ifanc ydy’r unig bobl ar yr aelwyd sy’n gallu casglu meddyginiaethau
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda
Un Pwynt Cyswll - 01248750057 ASDUTY@ynysmon.llyw.cymru
Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr – 01248370797 help@carersoutreach.org.uk
Gweithredu dros blant - 07809595221
ynysmonyoungcarers@actionforchildren.org.uk