Sut i wneud cais
Os yw eich gwaith adeiladu’n destun i’r Rheoliadau Adeiladu, gallwch gwblhau’r ffurflen cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.
Mae dwy ffordd o ymgeisio:
- adneuo’r cynlluniau llawn
- rhoi rhybudd adeiladu
Beth yw’r gwahaniaeth?
Cynlluniau llawn
Am gais cynlluniau llawn, mae’n rhaid cynhyrchu cynlluniau sy’n dangos yr holl fanylion lluniadol, gorau oll cyn i chi ddechrau adeiladu. Bydd y cais yn cael ei wirio’n ofalus iawn gennym ac mae’n bosibl y byddwn y gofyn i chi wneud gwelliannau i’r cynlluniau cyn rhoi cymeradwyaeth. Mae’n bosibl y byddwn yn ychwanegu amodau at gymeradwyaeth, gyda chytundeb ysgrifenedig gennych.
Rhybudd adeiladu
Archwilir y gwaith adeiladu wrth iddo fynd yn ei flaen, gyda’r weithdrefn Rhybudd Adeiladu. Bydd y syrfëwr rheoli adeiladu’n eich cynghori, os na fydd y gwaith yn cydymffurfio ar unrhyw gyfnod â’r rheoliadau. Fodd bynnag, os bydd angen gwybodaeth bellach ynghylch eich cynnig ar unrhyw adeg, un ai cyn y dyddiad dechrau neu yn ystod yr adeiladu, byddwn yn gofyn i chi ddarparu’r manylion ar ein cyfer. Mae’n rhaid i chi deimlo’n hyderus bydd y gwaith yn cydymffurfio â’r rheoliadau, neu byddwch yn mentro gorfod ei gywiro ar gais y cyngor.
Ffioedd
Ewch i ffioedd a thaliadau
Sut i dalu
Dylid cyflwyno’r ffi gyda’ch cais. Gellir ei dalu yn y dulliau canlynol:
- Defnyddio ein sustem talu ddiogel
- Cerdyn credyd/debyd trwy ffonio 01248 752 428
- Drwy BACS (cysylltwch â ni am fanylion BACS ar 01248 752 428)
Os oes gennych unrhyw amheuaeth am y ffi gywir, cysylltwch â’r adran gan na ellir cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’ch cais tan y bydd y ffi gywir wedi ei derbyn.
Os ydych yn gwneud gwaith adeiladu neu adnewyddu, efallai y bydd angen i chi roi gwybod i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a gallai fod dyletswyddau eraill gennych hefyd.
Am mwy o wybodaeth ar reoliadau cynllunio a rheoli adeiladau, gwneud cais ar lein am hawl cynllunio, apelio yn erbyn penderfyniad a darganfod mwy am ddatblygiadau gweler safle we y Porth Cynllunio
Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at
digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.