Cyngor Sir Ynys Môn

Beth yw rheoli adeiladu?


Os ydych am wneud gwaith adeiladu ar eiddo efallai bydd rhaid i chi gydymffurfio a’r rheolau adeiladau.

Mae Rheoli Adeiladau yn delio gyda dyletswyddau statudol o dan Deddf Adeiladu 1984, Rheoliadau Adeiladu 2010 a deddfrwiaeth. Mae’r ddeddfwriaeth yn gosod allan safonau derbyniol o adeiladu a bydd y gwasanaeth yn sicrhau fod y safonau hyn yn cael eu cyrraedd, trwy siecio a chymeradwyo dyluniadau a chyfrifiadau yn ogystal ag arolygu gwaith sydd yn mynd ymlaen. Rydym hefyd yn penderfynu ar amrywiaeth o geisiadau rheoliadau adeiladu sydd yn cynnwys aneddiadau newydd, estyniadau domestig a masnachol, newid defnydd a hefyd ddatblygiadau masnachol a diwydiannol.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig:

  • trafodaethau cyn gwneud cais
  • cymorth gydag ymholiadau cyffredinol ar faterion rheoliadau adeiladu
  • ymgynghori yn uniongyrchol gydag adrannau eraill o fewn yr Awdurdod ar geisiadau a gyflwynwyd
  • cyngor wrth delio a thir wedi ei lygru
  • ymgynghori gyda’r swyddog tân pan yn delio ag adeiladau a ddynodwyd
  • ymchwilio i strwythurau peryglus
  • Cynllun Cymeradwyo LANTAC Math Cenedlaethol

Caiff y Rheoliadau Adeiladu eu llunio o dan bwerau a ddarparwyd yn Neddf Adeiladu 1984, ac maent yn gymwys yng Nghymru a Lloegr.

Yr argraffiad cyfredol o’r rheoliadau yw ‘Y Rheoliadau Adeiladu 2010’ (fel y’u newidiwyd) ac mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o brosiectau adeiladu gydymffurfio â hwy. Maent yn bodoli er mwyn yw sicrhau iechyd a diogelwch pobl mewn pob math o adeiladau ac yn y cyffiniau (h.y. domestig, masnachol a diwydiannol). Maent yn darparu hefyd ar gyfer cadwraeth ynni, a mynediad i adeiladau a’r defnydd ohonynt.

Mae’r Rheoliadau Adeiladu yn cynnwys gwahanol adrannau sy’n ymdrin â diffiniadau a gweithdrefnau, ac â’r hyn a ddisgwylir o ran perfformiad technegol gwaith adeiladu. Er enghraifft, maent yn:

  • diffinio’r mathau o brojectau adeiladu, plymio a gwresogi sy’n cyfrif fel ‘Gwaith Adeiladu’ ac yn gwneud y rhain yn ddarostyngedig i’w rheoli o dan y Rheoliadau Adeiladu
  • dweud yn benodol pa fathau o adeiladau sydd wedi’u heithrio o reolaeth o dan y Rheoliadau Adeiladu
  • amlinellu’r trefniadau hysbysu sydd i’w dilyn wrth gychwyn, gwneud a chwblhau gwaith adeiladu
  • amlinellu’r ‘gofynion’ y mae’n rhaid i’r agweddau unigol ar ddylunio a chodi adeiladau gydymffurfio â hwy er mwyn iechyd a diogelwch defnyddwyr yr adeilad, cadwraeth ynni, a mynediad i adeiladau a’r defnydd ohonynt

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i unrhyw un sydd am wneud gwaith adeiladu sy’n ddarostyngedig i’r Rheoliadau Adeiladu sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau.

Os ydych chi am:

  • adeiladu adeilad newydd neu ymestyn neu newid un presennol
  • ddarparu gosodiadau megis draeniau neu offer sy’n cynhyrchu gwres
  • ddarparu cyfleusterau ymolchi a iechydol neu storfa dwr poeth
  • osod gwydr dwbl newydd

Mae’n bosib bydd Rheoliadau Adeiladu’n berthnasol. Mae’n bosib byddant hefyd yn berthnasol i newidiadau defnydd penodol adeilad presennol, neu os yw eich gwaith yn effeithio ar eiddo gerllaw. Cysylltwch â ni cyn gwneud unrhyw waith adeiladu, fel y gallwn benderfynu os yw’r Rheoliadau’n berthnasol.

Mae’r prif gyfrifoldeb dros gydymffurfio â’r rheoliadau yn eiddo i’r sawl sy’n gwneud y gwaith adeiladu. Os ydych yn gwneud y gwaith eich hun, felly, eich cyfrifoldeb chi fydd gwneud hyn.

Os ydych yn cyflogi adeiladydd bydd y cyfrifoldeb fel arfer yn eiddo i’r cwmni hwnnw - ond dylech gadarnhau hyn ar y cychwyn cyntaf. Os mai chi yw perchennog yr adeilad, dylech ddal mewn cof hefyd mai i chi yn y pen draw y gellid cyflwyno gorchymyn gorfodi, os nad yw’r gwaith yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Mae’n bwysig eich bod yn dewis eich adeiladydd yn ofalus, felly.

Derbyn tystysgrif cwblhau yw’r rhan olaf o’ch cais rheoli adeiladu.

Dylech wneud cais bod eich syrfëwr rheoli adeiladu yn gwneud archwiliad terfynol cyn i’r contractwr adael y safle a chyn i chi wneud eich taliad olaf am y prosiect. Os bydd yr holl waith yn dderbyniol, byddwch yn derbyn tystysgrif cwblhad a ellir ei roi gyda’ch gweithredoedd er mwyn gallu cyfeirio atynt yn y dyfodol.

Mae copïau o'r dystysgrif gwblhau ar gael ond am gost safonol o £60.

Os y byddwch yn cyflwyno rhybudd adeiladu gallwch ddechrau gweithio ar y safle 24 awr wedi i rybudd fod gwaith i’w ddechrau fod wedi ei gyflwyno, yn hytrach na’r cyfnod statudol o 48 awr.

Fodd bynnag, rhaid i chwi roi’r ‘ffi’ cywir gydag rhybudd.

Bydd swyddogion yn arolygu’r gwaith ar y safle i sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau Adeiladu.  Yn fwyaf arbennig bydd y swyddogion yn edrych ar y canlynol :

  • cloddio sylfeini
  • sylfeini wedi cwblhau
  • diogelwch rhag tân
  • systemau draenio
  • cwrs rhag tamp a chroen
  • gwaith brics a gwaith blocs i waliau
  • insiwleiddiad thermal i waliau, lloriau a thoeau
  • elfennau strwythurol
  • mesurau rhag y tywydd
  • ffliwiau a fentiau i osodiadau
  • awyru digonol
  • grisiau, pen grisiau a galerïau
  • gwydro diogelwch
  • mynediad i a defnydd o adeiladau
  • cyfleusterau i bobl anabl
  • mesurau rhag swn
  • diogelwch trydanol

Byddwn yn gwneud gwaith archwilio i sicrhau fod deunyddiau addas wedi eu defnyddio a bod y gwaith sydd yn dod o dan y Rheoliadau Adeiladu wedi ei wneud i safon resymol.

Mae’r gwasanaeth yn ceisio bod mor hyblyg ag sy’n bosibl yn ei agwedd yn ystod dyddiau’r wythnos a thra bydd y mwyafrif o’r ymweliadau yn cael eu cynnal rhwng 9am a 5pm fe ddylai cwsmeriaid gysylltu â’r swyddfa am gyngor pellach ynglyn ag arolygiadau y tu allan i’r oriau hyn.  Os bydd arnoch eisiau arolygiad ar yr un diwrnod rhaid gwneud cais i’r swyddfa cyn 10am.

Nid oes rhaid i’r gwaith ar y safle fod yn hollol fel ag sy’n cael ei ddangos ar y cynlluniau a gymeradwywyd.  Fe ellir cytuno ar newidiadau bychan gyda’r swyddogion rheoli adeiladu fel bo’r gwaith yn mynd yn ei flaen cyn belled â bod y gwaith gorffenedig yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau Adeiladu.  Os oes angen newidiadau mawr efallai  y bydd rhaid cyflwyno cais cynllunio o’r newydd.

Os byddwch yn gwneud cais cynllunio llawn, bydd y gwasanaeth yn anfon y cyfrif i chwi am y ffi arolygu wedi i’r arolygiad cyntaf o’r safle ddigwydd.  Bydd y gwasanaeth yn cyflwyno bil am y taliadau yn brydlon fel y gallwch wneud y trefniadau angenrheidiol.

Mae gan y gwasanaeth y ‘grym’ yn hytrach na ‘dyletswydd’ i ddelio â strwythurau peryglus ac os ydych yn bryderus fod adeilad neu strwythur yn beryglus dylech gysylltu â’r swyddfa fel y gallwn ymchwilio i’r mater.

Lle ei bo yn angenrheidiol byddwn yn gwneud trefniadau i’r perygl gael ei symud ar unwaith o dan arolygaeth ofalus swyddog rheoli adeiladu profiadol fydd yn sicrhau fod y gwaith yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf addas.

Os bydd raid i ni gymryd camau o’r fath gyda eich eiddo chwi byddwn yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â chwi yn y lle cyntaf.  Os na fydd hyn yn bosibl, bydd cerdyn yn cael ei adael yn yr eiddo yn dweud pa weithredu y bu’n rhaid ei wneud a phwy ddylid ei gysylltu am fwy o gyngor.

Os yw eich eiddo mewn cyflwr peryglus, ond nad ydyw yn cael ei ystyried i fod yn beryglus ar y funud, bydd yn rhaid rhoddi rhybudd strwythur peryglus ffurfiol i chwi, ond fe fyddwn yn rhoddi amser rhesymol i chwi ymateb ac yn cynnig cyswllt ar gyfer cael cyfarwyddyd pellach.

Codir tâl am ddelio gyda strwythurau peryglus i dalu am waith unrhyw gontractwr.

Lle ceir diffygion bychan yn yr adeiladau fe fyddwn, os yn bosibl, yn gwneud arolygiad ac yn cynnig cyngor anffurfiol ar y ffordd orau o gywiro.

Os byddwch yn methu â chael gwared o’r perygl byddir yn mynd â’r achos i lys yr ynadon a bydd hynny yn gwneud y perchennog yn gyfrifol am dalu’r costau am wneud y gwaith fyddai’n cael ei wneud gan yr awdurdod.

Gweler y ffioedd fel dogfen PDF.