Cyngor Sir Ynys Môn

Gwarchodfa Natur Nant y Pandy (The Dingle), Llangefni


Dyffryn coediog 10 hectar (25 acer) ac ynddo gyfoeth o fywyd gwyllt a hanes ydy Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy.Nant y Pandy Llangefni

Gwaith i adnewyddu llwybr pren yn dechrau ar 12 Tachwedd

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi sicrhau cyllid i amnewid y llwybr pren presennol â strwythur newydd.

Bydd y llwybrau newydd wedi eu gwneud o blastig wedi’i ailgylchu o ffynonellau cynaliadwy yn bennaf gan sicrhau y bydd yn para’n llawer hirach na’r pren a ddefnyddiwyd, ac a gafodd ei fwynhau gan lawer, dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd angen cau rhannau o’r llwybr pren i’r cyhoedd yn ystod y cyfnod y gwaith. Mae’r cyfnod cau cyntaf wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mawrth, 12 Tachwedd.

Bydd hyn yn darparu amser ar gyfer gwaith rheoli coed a gwaith archwilio terfynol, cyn dechrau tynnu’r llwybrau pren presennol.

Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn achosi anghyfleustra i’r rhai sy’n mwynhau mynd am dro ar y safle ond bydd gosod y 1,000 metr o lwybrau pren newydd yn cymryd amser. Rhagwelir y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn Ebrill 2025.

Pethau i'w gwybod

  • Bydd rhan o lwybr sy’n arwain o faes parcio Eglwys St Cyngar wedi cau tra bydd y llwybrau pren presennol yn cael eu tynnu.
  • Bydd y llwybr pren o Faes Parcio’r Orsaf i Lyn Pwmp ac i fyny at y B5109 (Ffordd Cildwrn) yn parhau ar agor yn ystod cyfnod cychwynnol y prosiect.
  • Gellir dal cael mynediad i’r safle drwy lwybr beics Lôn Las Cefni sy’n parhau ar agor ac ardal Coed Smyrna a fydd hefyd yn parhau ar gael o’r llwybr beicio.
  • Bydd mapiau yn amlinellu’r cynlluniau a llwybrau amgen yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol; ynghyd â diweddariadau rheolaidd wrth i’r gwaith o amnewid y llwybrau pren fynd rhagddo.
  • Ni fydd y gwaith parhaus i osod y llwybrau pren newydd yn effeithio ar y digwyddiad Park Run wythnosol a gynhelir yng Ngwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy.

Bydd y prosiect yn cael ei ddarparu diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Sir.

Gwybodaeth wreiddiol yn y dudalen hon

Dyffryn coediog 10 hectar (25 acer) ac ynddo gyfoeth o fywyd gwyllt a hanes ydy Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy.

Cafodd yr ardal ei gwella yn cynnwys llwybr bordau pren sy’n ymdroelli ar hyd Afon Cefni, tair pont droed newydd o goed derw, cerfluniau yn cynnwys, ymysg pethau eraill, gwas y neidr enfawr, hadau planhigion anferthol a choed derw wedi eu hollti i ddatgelu’r gerdd ‘Nant y Pandy’ gan y bardd lleol, Rolant o Fôn.

Mae’r llwybr bordau pren yn caniatau i bawb fynd i sawl rhan o warchodfa. Rheolir Nant y Pandy gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys Môn.

Coed derw digoes, ynn a cheirios gwyllt sydd i’w gweld yn bennaf mewn rhannau o’r coetir gyda sioe ysblennydd o glychau’r gog yn y gwanwyn. Mae rhannau eraill, coed sycamorwydden ac ambell i onnen sydd i’w gweld gyda phentwr o redyn a mwsog a blodau ‘r goedwig megis blodau’r gwynt. Plannwyd castanwydd, ffawydd a phinwydd gwyllt yng Nghoed Plas a gwelir yno garped o gennin Pedr yn y gwanwyn.

Mae llyffantod a madfallod yn byw yn y mannau gwlyb ac mae gwiberod a genau-goegiaid yn byw yn y coetir sychach. Ceir yma sawl math o löyn byw megis llwyd bach y ddôl a brith y coed a gwyfynod hefyd. Yn ogystal, gwelir gweision y neidr a mursennod, pryfed hofran, gwenyn a gwenyn meirch, chwilod, gwlithod a malwod, pryfed cop, pryfed lludw a nifer o greaduriaid bychain eraill.

Mae adar i’w gweld yma drwy’r flwyddyn: mae’r titw tomos las a’r titw mawr yn nythu yn y coed a’r lâr ddwr hithau yn nythu wrth y dŵr; mae’r dryw a’r siglen lwyd yn enghreifftiau o’r adar bach sydd i’w gweld yn aml o’r llwybr bordiau pren a gwelir adar mwy megis y gigfran, y boncath a’r crëyr yn hedfan uwchben. Mae modd gweld glas y dorlan hefyd yn fflach o las trydanol neu drochwr yn siglo i fyny ac i lawr ar hyd yr afon. Gellir clywed y dylluan frech a’i gweld yn aml hefyd yn y coetir yn y nos.

Gellir gweld pysgod megis y brithyll, y cochiad a’r pysgodyn garw yn y Llyn Pwmp ac o bryd i’w gilydd daw siwin a’r slywen i ymweld.

Mae mamaliaid yn fwy anodd o lawer i’w gweld. Efallai na fydd modd gweld y llwynog, dim ond clywed ei arogl ar draws llwybr. Gellir gweld olion y llygoden goch a llygoden y maes yn y darnau o gnau cyll sy’n cael eu gadael ganddynt. Wrth iddi dywyllu, mae modd gweld 8 allan o’r 16 math o ystlum sydd ym Mhrydain.

Efallai na fydd rhai ffeiliau yn addas os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Os ydych angen fersiwn sy’n fwy hygyrch, anfonwch neges e-bost at digidol@ynysmon.llyw.cymru gan nodi’r fformat sydd ei angen arnoch.