Gwneud cais
Mae cynllun 2024 i 2025 ar agor ac yn cau mis 31 Mai 2025.
Cymhwysedd
Rhaid i chi fod yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:
- Cymorth Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
- Cefnogaeth o dan Ran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
- Credyd Treth Plant (cyn belled nad ydych hefyd yn derbyn Credyd Treth Gwaith a bod gennych incwm blynyddol o ddim mwy na £16,190 cyn talu treth)
- Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Gwaith estynedig – y swm a delir i chi am 4 wythnos pan fyddwch yn gorffen bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol – rhaid i’r aelwyd ennill incwm o ddim mwy na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys yr incwm yr ydych chi’n ei dderbyn drwy fudd-daliadau
Mae pob blwyddyn ysgol orfodol o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 yn gymwys erbyn hyn.
Mae pob plentyn sydd mewn gofal yn gymwys, p’un ai a ydynt yn derbyn cinio ysgol am ddim ai peidio.
Nid yw disgyblion sy’n derbyn cinio ysgol am ddim oherwydd trefniadau gwarchod dros dro yn gymwys.
Caniateir i deuluoedd hawlio’r grant unwaith yn unig ar gyfer pob plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol.
Ynglŷn a'r grant
Fe all teuluoedd sy’n bodloni’r meini prawf hyn wneud cais am grant o:
- £125 ar gyfer pob disgybl
- £200 ar gyfer pob disgybl sy’n mynd i flwyddyn 7 (i helpu efo costau’n gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd)
Pwrpas y grant yw darparu cymorth grant i deuluoedd ar incwm is fel y gallant brynu:
- gwisg ysgol yn cynnwys cotiau ac esgidiau
- dillad ymarfer corff yn cynnwys esgidiau
- gliniaduron a thabledi yn unig (dylid defnyddio’r grant Hanfodion Ysgol dim ond os na all yr ysgol fenthyg offer i’r teulu)
- gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- sgowtiaid
- geidiaid
- cadetiaid
- crefft ymladd
- celfyddydau perfformio
- dawns
- offer, fel bagiau ysgol ac offer ysgrifennu
- offer arbenigol ar gyfer gweithgareddau cwricwlwm newydd megis dylunio a thechnoleg
- offer ar gyfer tripiau ysgol megis dysgu yn yr awyr agored, fel dillad glaw