Cyngor Sir Ynys Môn

Cronfa Cydlyniant Cymunedol 2024 i 2025


Cynllun grantiau bach yw Cronfa Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru a gall gynnig cyfleoedd i grwpiau cymunedol trydydd sector gyflawni gwaith, hyrwyddo cydlyniant a mynd i’r afael â thensiynau cymunedol. Mae’n gyfle i sefydliadau ymgeisio am gyllid o rhwng £500 a £5,000 i sicrhau fod elfennau o Gydlyniant Cymunedol yn cael eu gwreiddio ym mhob cymuned.

Rydym yn croesawu ceisiadau am ddigwyddiadau/gweithgareddau neu ddeunydd ysgrifenedig ategol sy’n hyrwyddo a meithrin cydlyniant mewn cymunedau yn siroedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.

Bydd y gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan y Tîm Cydlyniant Cymunedol ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru. Gellir anfon unrhyw ymholiadau am y grant at y Tîm Cydlyniant Cymunedol at cydlyniantcymunedol@ynysmon.gov.uk neu communitycohesion@anglesey.gov.uk.

Dim ond unwaith y caniateir i grwpiau unigol ymgeisio, ond mae croeso i unrhyw grŵp gydweithio gyda sefydliad arall i lunio cais ar y cyd.

Dylid anfon ffurflenni cais wedi’u cwblhau ar e-bost at cydlyniantcymunedol@ynysmon.gov.uk neu communitycohesion@anglesey.gov.uk erbyn dim hwyrach na 09 Medi 2024.

Ffurflen gais - bydd y ddolen yn agor tab newydd