Cyngor Sir Ynys Môn

Ysgol ac addysg


Grant Hanfodion Ysgol (Y Grant Datblygu Disgyblion yn flaenorol)

Gall plant o deuluoedd cymwys ymgeisio am grant o £125 i bob dysgwr, neu £200 i ddysgwyr sy’n cychwyn ym Mlwyddyn 7.

Gall plant cymwys sydd â’u teuluoedd ar incwm isel wneud cais am grant o £125 i bob dysgwr neu £200 i ddysgwyr sy’n cychwyn ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda’r costau uwch sydd yn gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd). 

Darganfod mwy am y Grant Hanfodion Ysgol

Prydau ysgol

Mae pob ysgol gynradd yn Ynys Môn yn cynnig prydau ysgol am ddim. 

Yn Ysgol uwchradd, bydd angen i chi wneud cais am brydau ysgol am ddim ar gyfer yr ysgol uwchradd.

Mae’n bosib bod eich plentyn yn gymwys i ginio ysgol am ddim os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymorth Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
  • Cefnogaeth o dan Ran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Credyd Treth Plant (cyn belled nad ydych hefyd yn derbyn Credyd Treth Gwaith a bod gennych incwm blynyddol o ddim mwy na £16,190 cyn talu treth)
  • Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith estynedig – y swm a delir i chi am 4 wythnos pan fyddwch yn gorffen bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol – rhaid i’r aelwyd ennill incwm o ddim mwy na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys yr incwm yr ydych chi’n ei dderbyn drwy fudd-daliadau  
Darganfod mwy am brydau ysgol

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

Taliad yw LCA i bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd am barhau â’u haddysg ar ôl oedran gadael ysgol.

Darganfod mwy am LCA - bydd y ddolen yn agor tab newydd

Gallwch wirio a ydych yn gymwys a sut i wneud cais.

Ewch yn ôl i'r brif dudalen