Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol, dienw a rhad ac am ddim ar wefan GOV.UK i wirio pa fudd-daliadau sy’n ddyledus i chi.
Mae nifer o’r cynlluniau cymorth ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael eu talu’n awtomatig os ydych yn hawlio’r budd-daliadau perthnasol ac os ydych yn hawlio’r budd-daliadau cywir gallech fod yn gymwys i dderbyn rhagor o gymorth ariannol.
I ddysgu mwy, ewch i wefan LLYW.CYMRU neu ffoniwch 0808 250 5700.
Cyngor ar Bopeth
Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cymorth a chyngor di duedd rhad ac am ddim ar faterion fel:
- costau byw
- dyledion
- cyngor ariannol
- Y Dreth Gyngor
- biliau trydan, dwr a nwy
Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch 08082 787 932.
Cyngor budd-daliadau
I dderbyn cyngor am fudd-daliadau cysylltwch ag uned Hawliau Lles y cyngor yng Nghanolfan J.E. O’Toole.
Ffôn: 01407 760 208
E-bost: otoole@ynysmon.llyw.cymru
Y cyngor
Gall Tîm Cynhwysiant Ariannol y cyngor gynnig cymorth ac arweiniad ynglyn â biliau cyfleustodau a chymorth ariannol posib, yn ogystal â chymorth i lunio cyllideb.
Ewch yn ôl i'r brif dudalen