Os ydych yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref, cysylltwch â Chyngor Sir Ynys Môn a gallant roi cyngor a chymorth i atal digartrefedd.
Gallwch hefyd ffonio 01248 752 200.
Digartref Ynys Môn
Mae Digartref Ynys Môn yn rhedeg Canolfan Ddydd Lighthouse, canolfan alw heibio i unigolion 18 oed a throsodd sydd yn cysgu allan, yn ddigartref, yn wynebu’r bygythiad o ddod yn ddigartref neu sydd yn wynebu anawsterau yn gysylltiedig â thai.
Mae’r gwasanaeth ar agor 7 diwrnod yr wythnos drwy’r flwyddyn yn 19 Stryd Williams, Caergybi ac er y gellir derbyn atgyfeiriadau ar gyfer y gwasanaeth hwn, nid yw hynny’n ofynnol a gall pobl alw heibio’r ganolfan.
Ffoniwch 01407 769 995 neu ewch i wefan Digartref.
Shelter Cymru
I dderbyn cymorth a chyngor ynglŷn â thai, ffoniwch llinell gymorth frys Shelter Cymru ar 08000 495 495 (9.30am i 12.30pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener).
Gallwch hefyd ymweld â gwefan Shelter Cymru.
Cysylltwch â landlordiaid tai cymdeithasol
Cyngor Sir Ynys Môn: 01248 752 200
Grŵp Cynefin: 03001 112 122
Tai Gogledd Cymru: 01492 572 727
Ewch yn ôl i'r brif dudalen