Rhent a morgeisi
Tenantiaid y cyngor
Os ydych yn denant i’r cyngor ac os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, cysylltwch â’ch Swyddog Rheoli Tai ar 01248 752 200 i drafod eich pryderon.
Rhenti preifat a morgeisi
MoneyHelper
Mae MoneyHelper yn wefan a gefnogir gan y llywodraeth sydd yn eich cynorthwyo i ganfod y cymorth cywir, a hynny yn rhag ac am ddim.
Cyngor ar Bopeth
Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor a chymorth diduedd a rhad ac am ddim.
Ewch i wefan Cyngor Ar Bopeth neu ffoniwch: 0808 278 7932
Cymorth i Aros - Cymru
Mae cynllun Cymorth i Aros Cymru yn cynnig cymorth i berchnogion tai yng Nghymru sy’n wynebu trafferthion ariannol wrth dalu eu morgais.
Cymorth gyda chostau tanwydd yn y cartref
Daeth y Cynllun Cymorth Biliau Ynni i ben ym mis Mawrth 2023.
- Os ydych yn cael trafferth talu am danwydd ar gyfer eich cartref rydym yn eich annog i gysylltu â’ch cyflenwr ar unwaith.
- Os nad ydych yn gallu rhoi arian ar eich mesurydd talu ymlaen llaw bydd y rhan fwyaf o gyflenwyr yn rhoi credyd brys i chi, ac efallai y cewch ragor o gymorth os yw eich cyflenwr yn penderfynu eich bod yn agored i niwed. Efallai y bydd modd talu’r arian yn ôl mewn rhandaliadau.
- Gallwch ofyn i sefydliadau partner, megis Cymorth Ar Bopeth, eich cyfeirio at y Sefydliad Banc Tanwydd os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwyso.
- Os ydych yn 75 oed neu’n hyˆn ac os oes gennych system wresogi olew, dylai eich enw gael ei ychwanegu at y Fenter Blaenoriaeth Tywydd Oer os yw eich cyflenwr yn aelod o UKIDFA. Bydd rhaid i’ch cyflenwr ddarparu’r tanwydd sydd ei angen arnoch wedyn.
- Gallai cymorth cyfyngedig fod ar gael gyda thanwydd i gartrefi nad ydynt ar y rhwydwaith nwy trwy dîm cynhwysiant ariannol y cyngor. Ni fydd y cymorth hwn ar gael ar ôl i’r cynllun presennol ddod i ben.
- Gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Brys o’r Gronfa Cymorth Ddewisol (DAF). Dylid troi at y gronfa hon dim ond os nad oes dewis arall ac mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud cais am gymorth o leoedd eraill yn gyntaf, megis benthyciad cyllidebu gan y Swyddfa Gwaith a Phensiynau neu daliad Credyd Cynhwysol ymlaen llaw, os yw’n berthnasol.
Am fanylion llawn ac i wneud cais ewch i wefan LLYW.CYMRU neu ffoniwch: 0800 859 5924
Taliad Tywydd Oer
Efallai y byddwch yn derbyn Taliadau Tywydd Oer os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau penodol neu gymorth gyda llog morgeisi. Byddwch yn derbyn taliad os yw’r tymheredd cyfartalog yn gostwng i 0 gradd Celsius neu is am 7 diwrnod yn olynol. Bydd cynllun 2023i 2024 yn agor ym mis Tachwedd 2023.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn y taliad yn awtomatig os ydynt yn gymwys.
Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Bydd y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn ailagor ym mis Hydref 2023. Mae’n cael ei dalu gan y cyflenwr fel gostyngiad ar y bil.
Dylai unrhyw un sy’n gymwys dderbyn llythyr erbyn Tachwedd neu Rhagfyr 2023, ac nid oes angen ymgeisio.
Byddwch angen enw eich cyflenwr trydan, manylion unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn, maint ac oedran eich eiddo ac oes gan yr eiddo dystysgrif perfformiad ynni (EPC).
Gallwch deipio eich cod post i ddarganfod gradd EPC eich eiddo.
Taliadau Tanwydd Gaeaf
Os cawsoch eich geni cyn 25 Medi 1957 efallai eich bod yn gymwys i dderbyn rhwng £250 a £600 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi. Dyma’r ‘Taliad Tanwydd Gaeaf’.
Mae’r swm sy’n cael ei dalu’n cynnwys ‘Taliad Costau Byw ar gyfer Pensiynwyr’ o rhwng £150 a £300. Byddwch yn derbyn y swm ychwanegol yn ystod Gaeaf 2023 i 2024. Mae hyn yn ychwanegol i unrhyw Daliadau Costau Byw eraill yr ydych yn eu derbyn gyda’ch budd-dal neu gredyd treth.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn y taliad yn awtomatig os ydynt yn gymwys.
Dim y cyngor sy’n gyfrifol am weithredu’r cynlluniau yma ac nid y cyngor sy’n gyfrifol am wneud y taliad.
Cofrestru am wasanaeth blaenoriaeth gyda chyflenwr ynni
Gallwch gael cymorth i wneud eich cartref mor gynnes â phosib os ydych yn breswylydd sydd ag anabledd, cyflwr iechyd, yn bensiynwr, neu os oes gennych blentyn dan 5 oed, neu os ydych yn feichiog.
Gellir gwneud hyn trwy wneud newidiadau bach yn eich defnydd o ynni, lleihau draff- tiau, insiwleiddio a thrwy fesurau eraill megis gosod paneli solar trwy gynlluniau fel ECO a Nyth.
Os ydych yn dymuno cael gwybod mwy am y cynllun Nyth ac i weld a ydych yn gymwys, ffoniwch Rhadffon 0808 808 2244 neu ewch i wefan Nyth.
Deall eich biliau a deall tariffau
Ystyriwch osod mesurydd clyfar yn eich cartref – holwch eich cyflenwr ynni.
Gall Cyngor ar Bopeth eich cynorthwyo i ddeall eich tariffau.
Ffoniwch 0808 278 7932
Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain
Elusen gofrestredig sy’n cynorthwyo unigolion a theuluoedd mewn tlodi, dioddefaint neu anhawster arall sy’n cael trafferth talu eu dyledion nwy neu drydan.
Gellir defnyddio’r grantiau i dalu costau angladd hefyd.
Ffoniwch 01733 421 021 neu ewch i wefan Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain.
Bwyd a bil dŵr
Bwyd Da Môn
Mae hwb cymunedol Bwyd Da Môn wedi’i leoli mewn siop nid er elw sy’n ail-ddosbarthu cynnych o nifer o archfarchnadoedd a chynhyrchwyr eraill. Mae’r siop yn glwb bwyd am dâl aelodaeth isel.
Mynediad at fwyd
Fel arfer mae angen atgyfeiriad gan asiantaeth partner, felly, os oes gennych weithiwr cymorth, siaradwch â nhw neu cysylltwch â Chyngor ar Bopeth neu Ganolfan J.E. O’Toole i ofyn am atgyfeiriad.
Prydau ysgol am ddim
Mae gwybodaeth am brydau ysgol am ddim ar y wefan hon.
Dŵr
Ewch i wefan Dŵr Cymru neu ffoniwch 0800 917 2652 a gofynnwch am gymorth i dalu eich biliau trwy gynlluniau megis HelpU neu Water Sure.
Ffonau a’r rhyngrwyd
Ar wefan Ofcom, ewch i’r tab Ffonau a’r rhyngrwyd a chwiliwch am ‘band eang rhad’ neu ‘cheap broadband’.
Hylendid
Os ydych yn cael trafferth fforddio cynnyrch misglwyf hanfodol, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i helpu.
Gellir casglu tamponau a/neu badiau am ddim, heb orfod ateb cwestiynau diangen na theimlo embaras, o Cyswllt Môn ym mhencadlys y cyngor, yn Llangefni, Canolfan J.E. O’Toole yng Nghaergybi, canolfannau hamdden y cyngor, llyfrgelloedd y cyngor, ysgolion uwchradd, Cyngor ar Bopeth a swyddfeydd Môn CF ledled yr ynys.
Mae nifer o feddygfeydd a gwasanaethau cymorth wedi cytuno i gymryd rhan ac maent wedi derbyn cyflenwad o gynnyrch rhad ac am ddim hefyd.
Gallwn gynnig nifer cyfyngedig o gynnyrch y gellir ei ail ddefnyddio tra bydd rhai mewn stoc.
Ffoniwch 01407 760 208 a siaradwch gyda Christine os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu gallwch ymweld ag unrhyw un o’r lleoliadau uchod i ofyn am yr eitemau.
Ewch yn ôl i'r brif dudalen