Gwiriwch pa fudd-daliadau a chymorth ariannol y gallwch eu dderbyn
Cyfrifiannell budd-daliadau
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol, am ddim a dienw i weld beth y gallech fod â hawl iddo. Bydd hyn yn rhoi amcangyfrif o:
- y budd-daliadau y gallech eu cael
- faint y gallai eich taliadau budd-dal fod
- sut bydd eich budd-daliadau yn cael eu heffeithio os byddwch yn dechrau gweithio neu’n cynyddu eich oriau
- sut y bydd eich budd-daliadau yn cael eu heffeithio os yw eich amgylchiadau yn newid - er enghraifft, os oes gennych blentyn neu symud i mewn gyda’ch partner
Darganfod mwy am gyfrifianellau budd-daliadau (gwefan GOV.UK) - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Symud i Gredyd Cynhwysol a sut y gallai effeithio arnoch chi
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli’r budd-daliadau hyn:
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm
- Budd-dal Tai
Darganfod mwy am symud i Gredyd Cynhwysol
Taliad Tywydd Oer
Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn Taliad Tywydd Oer os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol neu gymorth gyda llog morgeisi.
Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael y taliadau hyn yn awtomatig. Nid oes angen i chi wneud cais, ond efallai bydd angen i chi roi gwybod i’r Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn cael babi neu mae plentyn o dan 5 oed yn dod i fyw gyda chi.
Nid yw’r taliadau yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.
Byddwch yn cael taliad os yw’r tymheredd yn eich ardal chi, ar gyfartaledd, wedi’i gofnodi fel, neu y rhagwelir i fod, yn sero gradd celsius neu’n llai am 7 diwrnod yn olynol.
Byddwch yn cael taliad o £25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd 2024 a 31 Mawrth 2025.
Os ydych yn feichiog neu os oes gennych blentyn dan 4 oed
Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn Cerdyn Cychwyn Iach os ydych yn derbyn budd-daliadau cymwys.
Gyda Cherdyn Cychwyn Iach, gallwch brynu:
- ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tun
- llefrith buwch plaen
- codlysiau ffres, wedi’u sychu neu mewn tun
- fformiwla babanod wedi’i wneud o laeth buwch sy’n addas i fabanod newydd anedig
a gallwch dderbyn fitaminau am ddim.
Ewch i'r wefan Healthy Start neu ffoniwch 0300 330 7010.
Gallwch gysylltu â thîm cynhwysiant ariannol y cyngor hefyd ar 01248 752 284 neu anfonwch e-bost at financialinclusion@ynysmon.llyw.cymru.
Gallant wirio a ydych yn gymwys a’ch cynorthwyo i lenwi’r ffurflen ar-lein.
Byddwch yn derbyn y cerdyn yn y post os ydych yn gymwys. Gellir ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o siopau yn y DU a bydd arian yn cael ei roi ar eich cerdyn bob pedair wythnos.
Ewch yn ôl i'r brif dudalen