Fel arfer mi fydd y rhain yn cael eu talu’n uniongyrchol i chi - yn uniongyrchol i gyfrif eich banc neu i’r gymdeithas adeiladu; os nad oes gennych gyfrif o’r fath mi fyddwch yn derbyn y tâl trwy siec.
Os nad oes gennych chi gyfrif banc na chyfrif cymdeithas adeiladu efallai y byddwch yn dymuno agor cyfrif. Trwy wneud hynny mi fedrwch drefnu i dalu’r rhent yn syth i’ch landlord, gan ddefnyddio gorchymyn parhaus. Am wybodaeth ar y gwahanol fanciau, cymdeithasau adeiladu ac undebau credyd gellir eu cael ar Ynys Mon a’r cyfrifon banc sylfaenol sydd ar gael, gweler y ddogfen PDF yn y tab dogfennau ar ben y dudalen.
Mi fedrwch gael cyngor ar sut i agor cyfrif yn y banc neu yn y gymdeithas adeiladu trwy gysylltu gyda nhw. Ond hefyd mi fedrwch gael cyngor trwy gysylltu â mudiad megis y Citizens Advice. Chi sy’n gyfrifol am dalu rhent i’r landlord - os na fyddwch chi yn gwneud hynny mae’n bosib mynd â chi i’r Llys a’ch troi o’r tŷ.