Dan yr amgylchiadau presennol a fyddai modd anfon pob llythyr/dogfen yn ymwneud â cheisiadau Budd-dal Tai/Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar e-bost at budddaliadau@ynysmon.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i e-bost gallwch barhau i bostio’r llythyrau/dogfennau hyn i Swyddfa’r Cyngor ond byddwch yn ymwybodol y gallai gymryd mwy o amser i brosesu’r post a dychwelyd unrhyw ddogfennau angenrheidiol atoch.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom byddwn yn cysylltu â chi, naill ai ar e-bost neu ar y ffôn.
Mae’r ffurflen hon yn ffurflen gais ar y cyd am Fudd-dal Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Os ydych yn hawlio Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn unig, nodwch mai hon yw’r ffurflen berthnasol ar gyfer gwneud hynny hefyd ac y bydd y cwestiynau a ofynnir yn berthnasol i’r gostyngiad hwnnw yn unig.
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol nodwch fod rhaid i chi hawlio Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar wahân ac y gallwch ddefnyddio’r linc isod i wneud hynny.
Gwnewch gais
Gallwch wneud cais ar-lein am Fudd-dal Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein isod.
Dim ond trigolion Ynys Môn ddylai ddefnyddio’r ffurflen hon.
Cais newydd
Dilynwch y linc isod ac yna ewch i “Cychwyn Ffurflen Newydd” i wneud cais newydd.
Cais ar y gweill
Os oes gennych gais ar y gweill sydd heb ei gwblhau, ac os ydych yn gwybod cyfeirnod y ffurflen ar gyfer y cais hwnnw, yna teipiwch y rhif cyfeirnod yn y bocs cyfeirnod ar y ffurflen o dan y pennawd “Parhau gyda ffurflen a gadwyd yn flaenorol” a dewiswch y linc “Parhau”.
Gwnewch gais am fudd-dal tai a cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor
Trigolion sy’n byw ym Môn, tenantiaid y cyngor, tenantiaid preifat a pherchnogion tai
Os ydych yn byw tu allan i Ynys Môn cysylltwch â’ch cyngor i wneud cais am fudd-dâl tai neu ostyngiad treth cyngor, oni bai eich bod wedi cael tŷ yma gan y Cyngor.
Budd-dal Tai
Mae Budd-dal Tai yn fudd-dal i’ch helpu i dalu eich rhent. O ganlyniad i gyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gallwch hawlio budd-dal tai dim ond os ydych yn byw mewn llety â chymorth, yn derbyn y Premiwm Anabledd Difrifol gyda’ch budd-daliadau neu os ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth.
Gallwch wirio a ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth ar y wefan ganlynol gan y Llywodraeth: https://www.gov.uk/state-pension-age
Os ydych yn cyflwyno cais newydd am Fudd-dal Tai, nodwch fod rheolau newydd wedi dod i rym ar gyfer cyplau ym mis Mai 2019 sy’n golygu y bydd cwpwl yn cael eu dynodi yn gwpwl sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth neu yn gwpwl oedran gweithio ar sail oed aelod ieuengaf y cwpwl.
Mae hidlen ar y ffurflen i ddangos os nad ydych yn gallu hawlio Budd-dal Tai a bod angen i chi hawlio’r Credyd Cynhwysol. Os yw hynny’n berthnasol i chi, cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau i hawlio Credyd Cynhwysol
Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Gall Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor eich helpu gyda’ch Treth Gyngor.
I wneud cais bydd rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau perthnasol ar y ffurflen ar-lein.
Wrth i chi lenwi’r ffurflen, mae’n monitro’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi ac yn agor a chau gwahanol feysydd yn dibynnu a ydynt yn berthnasol i chi ai peidio. Dim ond yr adrannau sydd wedi eu lliwio’n wyrddlas y mae angen i chi eu llenwi.
Cwblhau’r ffurflen gais
Byddwch yn ymwybodol y bydd rhaid i chi gwblhau’r holl gwestiynau gorfodol ar y ffurflen ac na fydd modd i chi gyflwyno’r ffurflen oni bai eich bod wedi gwneud hyn.
Tystiolaeth
Mae’n rhaid i ni weld tystiolaeth ar gyfer rhai o’r pethau yr ydych yn ddweud wrthym a rhaid i ni weld y dogfennau gwreiddiol. Bydd y ffurflen yn rhoi rhestr i chi o’r union dystiolaeth y byddwn angen ei gweld er mwyn cefnogi eich cais. Ni allwn dalu budd-dal i chi nes ein bod wedi gweld y dystiolaeth yr ydym wedi gofyn amdani.
Manteision defnyddio’r ffurflen ar-lein
- Mae modd cwblhau’r ffurflen oddi ar-lein, heb gysylltu â’r Rhyngrwyd
- i sicrhau eich preifatrwydd, bydd yr holl wybodaeth yr ydych yn ei rhoi ar y ffurflen yn cael ei amgryptio
- nid oes rhaid ei chwblhau ar unwaith – mae modd arbed y ffurflen ar eich cyfrifiadur a dod yn ôl ati yn hwyrach ymlaen
- bydd y ffurflen yn eich helpu ac yn eich arwain wrth i chi fynd ymlaen er mwyn sicrhau eich bod yn llenwi’r rhannau sy’n berthnasol i’ch cais yn unig
- mae’r ffurflen ei hun yn chwilio am wallau ac yn amlygu unrhyw beth yr ydych wedi ei fethu
- bydd y ffurflen yn rhoi rhestr i chi o’r union dystiolaeth y byddwn angen ei gweld i gefnogi eich cais
- cyn gynted ag y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen, gallwch ei chyflwyno’n uniongyrchol fel y gallwn ddechrau prosesu eich cais heb unrhyw oedi
Cymorth pellach
Os oes gennych gwestiwn am eich cais am Fudd-dâl Tai neu am Ostyngiadau’r Dreth Gyngor neu os ydych angen cymorth i lenwi’r ffurflen, cysylltwch â’r adran budd-daliadau ar 01248 750057, neu cwblhewch ein ffurflen ymholiad ar-lein isod.