Y gost
Y ffi blynyddol am bob bin gwastraff gardd gwyrdd i bob cartref fydd £38.
Sut i danysgrifio
I danysgrifio i’r gwasanaeth rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein.
Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.
Fel arall, gallwch ffonio'r cyngor ar 01248 750 057 i wneud taliad dros y ffôn.
Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio
Ar ôl i chi dalu, byddwch yn derbyn pecyn gwybodaeth ynghyd â sticer adnabod drwy'r post o fewn 21 diwrnod gwaith.
Ychwanegwch eich cyfeiriad ar y sticer gan ddefnyddio beiro marcio parhaol.
Tynnwch y cefn yn ofalus a rhowch y sticer ar eich bin olwynion gwyrdd fel y dangosir yn y llythyr yn y pecyn gwybodaeth.
Peidiwch ag atodi'ch sticer newydd i'r bin tan ar ôl eich casgliad diwethaf ym mis Mawrth.
Os nad ydych yn derbyn eich pecyn gwybodaeth a sticer cysylltwch â gwyrdd@ynysmon.llyw.cymru neu 01248 750 057.
Os na fyddwch yn cael eich pecyn newydd a’ch sticer
Os na fyddwch yn cael eich pecyn gwybodaeth a’ch sticer o fewn 21 diwrnod gwaith, cysylltwch â ni drwy anfon neges at gwyrdd@ynysmon.llyw.cymru gyda’ch enw llawn, cyfeiriad a’ch cyfeirnod.
Rhowch eich sticer newydd ar eich bin
Cofiwch y bydd angen i chi roi’r sticer newydd ar gyfer 2024 i 2025 ar eich bin gwyrdd o 1 Ebrill 2024.
Os na fyddwch yn rhoi eich sticer newydd ar eich bin gwyrdd, ni fydd yn cael ei gasglu a’i wagio.
Rhaid gosod y sticer 30 centimetr o dan y ddolen gydio ar gefn y bin.
Archebwch fin gwyrdd newydd
Efallai y bydd angen i chi archebu bin gwyrdd newydd.
Eich cwestiynau cyffredin
Polisi codi tâl
Ydynt, mae pob cyngor arall yng Ngogledd Cymru’n codi tâl am gasgliadau gwastraff gardd gwyrdd.
Mae Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012 yn caniatáu i gynghorau godi tâl am gasgliadau gwastraff gardd gwyrdd. Nid oes rheidrwydd ar gynghorau i ddarparu casgliadau gwastraff gardd gwyrdd am ddim i gartrefi.
Dywed y gyfraith y gall cynghorau godi tâl rhesymol am gasglu gwastraff gardd gwyrdd cartref, yn yr un modd ag y gwneir am gasgliadau gwastraff swmpus. Fodd bynnag, byddwch yn gallu parhau i gael gwared â’ch gwastraff gardd gwyrdd yn rhad ac am ddim yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
Mae codi tâl am gasgliadau gwastraff gardd gwyrdd hefyd yn sicrhau bod y cyngor yn dilyn argymhellion Glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer opsiynau casglu gwastraff yng Nghymru.
Nid oes rhaid i gynghorau gasglu gwastraff gardd gwyrdd deiliaid tai am ddim er bod dyletswydd gyfreithiol arnynt i gael gwared â gwastraff cartref yn rhad ac am ddim.
Mae'r gyfraith yn rhoi hawl i gynghorau godi tâl rhesymol am gasglu gwastraff gardd gwyrdd cartref.
Yn ogystal, nid oes angen gwasanaeth casglu gwastraff gardd gwyrdd ar bob eiddo yn Ynys Môn oherwydd nad oes gardd neu gompost cartref ym mhob eiddo.
Am y rheswm hwn, y teimlad hefyd yw mai teg yw cyflwyno tâl gan mai dim ond y cartrefi hynny sy'n dewis ei ddefnyddio fydd yn talu am y gwasanaeth.
Gellir cymryd taliadau ar-lein trwy wefan y cyngor neu dros y ffôn.
Ni allwn dderbyn arian parod na sieciau yn anffodus.
Bydd angen talu cyn i unrhyw wasanaeth casglu gwastraff gardd gwyrdd ddechrau.
Na, dim ond mewn un taliad y gallwn gymryd y ffi.
Gallwch.
Gallwch ymuno â'r gwasanaeth ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ond bydd y ffi yn aros yr un fath, waeth pa bryd y cofrestrwyd. Mae'r flwyddyn yn ymestyn o 1 Ebrill i 31 Mawrth.
Ffi flynyddol yw'r ffi sefydlog am wagio unrhyw fin gwastraff gardd gwyrdd hyd at 240 litr o faint. Os oes angen, gallwch gyfnewid eich bin gwyrdd bach am fin 240 litr mwy heb unrhyw gost ychwanegol.
Ar ôl i chi dalu, byddwch yn derbyn llythyr croeso a sticer adnabod trwy'r post - bydd gofyn i chi lynu'r sticer adnabod hwn ar eich bin olwynion gwastraff gardd gwyrdd.
Mae'r sticer adnabod penodol hwn yn dangos eich bod wedi talu am y gwasanaeth ac mae’n hawdd i'r criwiau casglu ei adnabod. Rhaid i chi roi'r sticer adnabod ar eich bin olwynion gwastraff gardd gwyrdd yn y man a nodir (gweler y cyfarwyddiadau).
Rhaid i'r sticer adnabod hwn fod ar eich bin gwastraff gardd gwyrdd yn y man penodol er mwyn i'ch bin gael ei gasglu.
Gallwch fynd â'ch gwastraff gardd gwyrdd i un o'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (ym Mhenhesgyn a Gwalchmai). Fel arall, fe allech chi gompostio gartref.
Ni ddylid rhoi gwastraff gardd gwyrdd yn eich bin du i gael gwared ag o. Ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn unig mae hwn.
Ni roddir ad-daliadau os byddwch chi'n newid eich cyfeiriad ar Ynys Môn. Fodd bynnag, gallwch drosglwyddo'r gwasanaeth i'ch tŷ newydd ar Ynys Môn.
Bydd angen i chi gysylltu â ni i gadarnhau eich manylion newydd. Os ydych yn symud o Ynys Môn, ni fyddwch yn derbyn ad-daliad ond gallwch hysbysu'r person fydd yn symud i mewn i'ch cartref y bydd y gwasanaeth yn parhau ar eu cyfer am weddill y flwyddyn ariannol.
Peidiwch â symud eich bin olwynion gwastraff gardd gwyrdd o'ch cartref.
Oes.
Bydd angen talu bob blwyddyn i'r gwasanaeth barhau. Cysylltir â chi yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fydd tanysgrifiadau newydd ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol yn agor.
Defnyddio'r gwasanaeth
Ar ôl i chi dalu, byddwch yn derbyn pecyn gwybodaeth ynghyd â sticer adnabod drwy'r post erbyn 31 Ionawr 2024.
Yn anffodus, ni allwn ddarparu pecynnau gwybodaeth dros y cownter wrth ddesg dderbynfa Cyswllt Môn.
Ychwanegwch eich cyfeiriad ar y sticer gan ddefnyddio beiro marcio parhaol.
Tynnwch y cefn yn ofalus a rhowch y sticer ar eich bin olwynion gwyrdd fel y dangosir yn y llythyr yn y pecyn gwybodaeth.
Peidiwch ag atodi'ch sticer newydd i'r bin tan ar ôl eich casgliad diwethaf ym mis Mawrth.
Os nad ydych yn derbyn eich pecyn gwybodaeth a sticer cysylltwch â gwyrdd@ynysmon.llyw.cymru neu 01248 750 057.
Rydym yn derbyn:
toriadau gwair, toriadau gwrychoedd, brigau a changhennau hyd at ddiamedr o 5cm, rhisgl, dail, gwellt, gwair, blodau, planhigion, ffrwythau wedi syrthio, chwyn cyffredinol a gwaith tocio (rhaid cynnwys pob eitem yn eich bin gwastraff gardd gwyrdd a rhaid cau’r caead).
Nid ydym yn derbyn:
gwastraff cartref cyffredinol, três plastig, bagiau plastig, canghennau mawr dros 5cm mewn diamedr, rhywogaethau goresgynnol neu blanhigion gwenwynig fel clymog Japan, llysiau'r gingroen a Jac y Neidiwr, tywyrch, pridd, cerrig, graean, pren sydd wedi'i drin neu ei baentio, bwyd cegin gan gynnwys croen llysiau ac ati, baw cathod neu gŵn, gwastraff anifeiliaid, gwastraff anifeiliaid anwes, gwrthrychau metel, sarn cathod.
Ni chaniateir rhoi plastig o unrhyw fath ym min olwynion gwastraff gwyrdd. Bydd unrhyw ddeunydd nad yw’n cydymffurfio ac a roddir ym min gwastraff gardd gwyrdd yn cael ei drin fel halogiad ac ni fydd y bin yn cael ei wagio.
Byddwch yn derbyn gwasanaeth casglu gwastraff gardd gwyrdd bob pythefnos trwy gydol y flwyddyn o fin olwynion 240 litr.
Gallwch. Gallwch danysgrifio am hyd at gyfanswm o bedwar bin olwynion gwastraff gardd gwyrdd i bob cartref.
Mae biniau gwastraff gardd gwyrdd yn costio £38 y bin.
Noder, ni ellir rhoi gwastraff gardd gwyrdd masnachol o gwbl yn y biniau olwynion a gyflenwir gan y Cyngor.
Glynwch y sticer adnabod oddeutu 30cm (10 modfedd) dan ddolenni cydio eich bin olwynion gwastraff gardd gwyrdd (fel y llun).
Fel hyn, mae modd i'r criw casglu weld yn hawdd pwy sydd wedi talu am y gwasanaeth y codir tâl amdano.
Ni fydd y criwiau casglu’n casglu unrhyw finiau gwastraff gardd gwyrdd lle nad oes sticer adnabod i’w weld.
Cysylltwch â’r Adain Rheoli Gwastraff ar gwyrdd@ynysmon.llyw.cymru
Mewngofnodwch i wirio'ch diwrnod casglu a neilltuwyd ar gyfer gwastraff gardd gwyrdd.
Fel arall, gallwch gysylltu â Chanolfan Alwadau’r Adain Rheoli Gwastraff a all gadarnhau eich diwrnod casglu bryd hynny.
Rhaid gadael y bin gwastraff gardd gwyrdd wrth ymyl y ffordd (sef y briffordd fabwysiedig agosaf fel rheol, palmant neu ymyl y briffordd, er enghraifft) erbyn 7am ar y diwrnod casglu, yn unol â'r wybodaeth yn y calendr casglu a roddir gan y Cyngor.
Gwnewch yn siŵr bod dolenni cydio’r biniau’n wynebu canol y briffordd fabwysiedig fel y gall y criwiau casglu weld eich sticer adnabod yn glir.
Na chewch. Dim ond gwastraff gardd gwyrdd sy'n cael ei roi yn y bin gyda'r caead ar gau y byddwn yn ei gasglu.
Nac oes, nid oes angen i chi wneud dim. Awgrymwn eich bod yn cadw'r bin gwastraff gardd gwyrdd ar dir eich tŷ rhag ofn y byddwch yn penderfynu defnyddio'r gwasanaeth yn y dyfodol.
Os yw'n gasgliad dilys a fethwyd (bin wedi'i gyflwyno ar y diwrnod cywir ac ar yr amser cywir), cysylltwch â ni erbyn 12pm ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ol eich diwrnod casglu arferol.
Os nad oes gennych unrhyw un sy'n gorfforol abl yn eich cartref, gallwch ofyn am wasanaeth casglu â chymorth.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.