Mae system Rhybuddion Argyfwng Llywodraeth y DU yn ei gwneud hi'n bosibl cysylltu â phobl drwy eu ffôn symudol pan fo bywydau mewn perygl.
Bydd yn cael ei ddefnyddio i'ch rhybuddio os bydd argyfyngau, megis llifogydd difrifol.
Anfonir Rhybuddion Argyfwng i bob ffôn symudol cydnaws mewn ardal risg.
Pwy sy'n anfon Rhybuddion Argyfwng?
Dim ond y llywodraeth a'r gwasanaethau brys fydd yn gallu eu hanfon. Os nad oes gennych ffôn symudol, byddwch yn dal i gael eich hysbysu trwy sianeli eraill.
Beth sy'n digwydd os cewch chi rybudd?
Os cewch Rybudd Argyfwng ar eich ffôn, byddwch yn clywed sain uchel, tebyg i seiren. Bydd neges ar eich sgrin yn dweud wrthych am yr argyfwng a'r ffordd orau o ymateb. Byddwch yn gallu gwirio bod rhybudd yn ddilys yn gov.uk/alerts
Os byddwch yn derbyn rhybudd, darllenwch y rhybudd yn ofalus a dilyn y cyfarwyddiadau.
Eich data personol
Nid ydynt yn olrhain eich lleoliad, nid oes angen eich rhif ffôn, ac nid ydynt yn casglu data personol.
Gallwch optio allan o dderbyn rhybuddion argyfwng.
Darganfod mwy am Rybuddion Argyfwng - bydd y ddolen yn agor tab newydd