Gwasanaeth cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol sy’n cynnwys y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru sydd bellach yn gyfrifol am Gynllunio at Argyfwng yng Nghyngor Sir Ynys Môn.
Mae’r gwasanaeth yn gweithio o ddau hyb, y naill yng Nghyffordd Llandudno a’r llall yn y Gogledd-Ddwyrain yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug.
Mae’r Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol yn cynorthwyo Cyngor Sir Ynys Môn i gwrdd â’i ddyletswyddau statudol dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Gall tywydd garw, damwain ffordd neu ddamwain ddiwydiannol, llygredd dŵr neu derfysgaeth greu argyfwng.
Mae gweithio’n agos gydag asiantaethau ymateb eraill megis y gwasanaethau argyfwng, Cyfoeth Naturiol Crymu, yr Asiantaeth Arforol a Gwylwyr y Glannau ac eraill, yn paratoi Cyngor Sir Ynys Môn fel ei fod mor barod ag y gall fod i ymateb i argyfwng mawr a dod ato’i hun wedyn.
Bydd ymateb cynlluniedig yn lliniaru effeithiau argyfwng ac yn cynorthwyo’r gymuned i ddychwelyd i fywyd normal. Mae gwybodaeth ar wefan y cyngor yn nodi’r hyn y gallwch chi ei wneud i’ch amddiffyn eich hun mewn digwyddiad neu ddamwain fawr ac yn cynnwys cyngor syml am yr hyn y dylech, a’r hyn na ddylech ei wneud i’ch helpu i baratoi ar gyfer argyfwng heb i hynny ymyrryd heb fod angen, ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd.