Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Mercher drwy apwyntiad yn unig, 10am tan 4pm.
Nid ydym ar agor ar wyliau banc.
Gwneud apwyntiad
Gofynnwn i’n holl ymwelwyr archebu lle mewn ystafell ymchwil ac archebu dogfennau ymlaen llaw erbyn 3pm y dydd Gwener wythnos cyn eich ymweliad.
Ein rhif ffôn yw 01248 751 930, neu gallwch anfon e-bost atom archifdyarchives@ynysmon.gov.uk
Os na allwch ymweld â ni, rydym yn darparu gwasanaeth copïo ac ymchwil. Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth.
Rhaid i chi gael cerdyn archifdy
Er mwyn defnyddio'r archif, rhaid i bob ymwelydd gael cerdyn archifdy.
Gofynnwch am gerdyn archifdy (dolen allanol yn agor tab newydd) - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Ymweliadau addysgiadol
Mae archifau’n ffynonellau gwych ar gyfer darparu profiadau dysgu i blant ac athrawon. Gall defnyddio’ch archifdy lleol i ymchwilio pynciau a/neu leoedd gwahanol ysgogi dychymyg a gwneud y pwnc yn ddiddorol. Drwy drafod gwerth ffynonellau gwybodaeth gwahanol, gall disgyblion ddysgu sgiliau newydd a gwneud eu hymchwil eu hunain.
Gall ymweld â’r archifdy gynnig cyfleoedd dysgu trawsgwricwlaidd. Gallwn helpu gyda’r sgiliau canlynol:
- Ymwybyddiaeth gronolegol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth hanesyddol
- Dehongli hanes
- Ymholiad hanesyddol
- Trefn a chyfathrebu
Rydym yn hapus i groesawu ymweliadau gydag unigolion neu grŵp gydag athrawon a/neu ddisgyblion. Rydym yn croesawu’r cyfle i weithio gydag athrawon er mwyn helpu i greu pecynnau o adnoddau a ellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Wrth gyrraedd
Cofiwch gyrraedd ar amser eich apwyntiad. Cewch locer ar gyfer eich côt a’ch bagiau. Ni chaniateir bagiau, beiros, bwyd na diod yn yr ystafell ymchwil.
Sicrhewch eich bod yn golchi’ch dwylo gyda sebon a dŵr cyn cyffwrdd ag unrhyw archifau. Nid yw gel dwylo yn addas oherwydd gall ddifrodi’r archifau.
Gallwch ddod a’ch pensil a phapur eich hun er mwyn cymryd nodiadau, ond mae modd prynu’r rhain ar y safle.
Bydd aelod o staff ar gael yn yr ystafell ymchwil bob amser er mwyn dangos i chi sut i drin yr archifau’n ddiogel ac i ateb unrhyw ymholiad sydd gennych chi.
Cyfleusterau
Mae dau gyfrifiadur cyhoeddus ar gael. Efallai y bydd yn ddefnyddiol archebu i gadw cyfrifiadur ar adegau prysur. Gellir hefyd bori gwefannau hanes teuluol ar-lein am ddim yn yr archifdy.
Mae croeso i chi ddod a gliniadur neu lechen a defnyddio ein Wi-Fi sydd am ddim. Fe ganiateir y defnydd o gamerâu - noder, bydd angen talu am drwydded.
Er na chaniateir bwyd na diod yn yr ystafell ymchwil, mae croeso i chi ddefnyddio ardal ein derbynfa i fwyta’ch bwyd a’ch diod.
Mae cyfleusterau toiled a pharcio am ddim ar gael ar y safle ar gyfer ein cwsmeriaid.
Dod o hyd i ni
Mewn car: gadewch gwibffordd yr A55 yng Nghyffordd 6. Arwydd Rhostrehwfa (A5) Llangefni (A5114). Dilynwch yr arwyddion i gyfeiriad Llangefni (A5114).
Cymerwch y toriad cyntaf i’r dde, yna dilynwch yr arwyddion ar gyfer yr Ystâd Ddiwydiannol. Yn y gylchfan gyntaf, cymerwch yr allanfa gyntaf. Parhewch ar y ffordd nes gweld yr arwydd ar gyfer y swyddfa.
Mae Archifau Ynys Môn wedi’i leoli tu ôl i Brodwaith Môn sydd ar yr ochr dde.
Gyda bws neu drên: Bangor yw’r orsaf drenau fwyaf cyfleus, ac mae’r cysylltiadau bws oddeutu hanner awr.
Taith rithwir
Gallwch weld y delweddau isod o fewn y dudalen we hon fel delweddau 360 gradd.
Trwy glicio tu mewn i ddelwedd gallwch hefyd lusgo’r ddelwedd o gwmpas eich hun. Mae gennych hefyd y dewis o glicio ar yr enw brand ‘Theta’ yn y gornel chwaith ar waelod y ddelwedd i’w hagor o fewn chwaraewr cyfryngau Theta ei hun.
Cewch wedyn ragor o opsiynau gwylio.
Y POD
Post from RICOH THETA. - Spherical Image - RICOH THETA
Ystafell Ymchwil
Post from RICOH THETA. - Spherical Image - RICOH THETA
Llogi ystafell yn Archifau Ynys Môn
Mae Ystafell Dewi O. Jones yn Archifau Ynys Môn ar gael i’w llogi o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.30am - 5pm
Post from RICOH THETA. - Spherical Image - RICOH THETA